Llifogydd ym Mhontypridd yn 'ddigwyddiad difrifol'
Mae trigolion ym Mhontypridd yn clirio dŵr o'u cartrefi ddydd Sul wedi i Afon Taf orlifo'i glannau yn sgil glaw trwm Storm Bert.
Mae'r llifogydd wedi effeithio ar nifer o'r adeiladau a gafodd ddifrod wedi Storm Dennis yn 2020.
Dywed arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan bod y cyngor yn ymateb i'r sefyllfa fel "digwyddiad mawr oherwydd llifogydd difrifol... yn sawl lleoliad" ar draws y sir.
Mae dros 100 o rybuddion llifogydd mewn grym ar draws Cymru, ffyrdd ar gau a channoedd o bobl yn dal heb drydan ddydd Sul yn sgil ail storm fawr y tymor.