Noson 'sbesial' yn gwylio gornest y bocsiwr Lauren Price
Bu llwyddiant arall i'r Gymraes, Lauren Price, nos Sadwrn wrth iddi gadw ei theitl o fod yn bencampwr pwysau welter y byd wedi gornest yn erbyn Bexcy Mateus o Golombia.
O flaen torf o 4,000 yn Lerpwl, roedd llaw chwith Price yn drech na Mateus ac fe stopiodd y dyfarnwr yr ornest yn y drydedd rownd.
Wrth ymateb i'w llwyddiant, dywedodd y bocsiwr Ioan Croft bod gwylio'r gornest yn brofiad "sbesial iawn".
"Mae wedi dangos, wel i fi, bod hi yw'r gorau yn y byd yn y pwysau ar y foment."
Lauren Price yw'r ferch gyntaf o Gymru i ennill pencampwriaeth bocsio byd.
Fe fydd hi nawr yn mynd ymlaen i herio'r bencampwraig Natasha Jonas ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.