Bocsio: Buddugoliaeth arall i'r bencampwraig Lauren Price
- Cyhoeddwyd
Roedd yna lwyddiant arall i'r Gymraes, Lauren Price, nos Sadwrn wrth iddi gadw ei theitl o fod yn bencampwr pwysau welter y byd wedi gornest yn erbyn Bexcy Mateus o Golombia.
O'r dechrau. o flaen torf o 4,000 yn Lerpwl, roedd llaw chwith Price yn drech na Mateus ac fe stopiodd y dyfarnwr yr ornest yn y drydedd rownd.
Lauren Price yw'r ferch gyntaf o Gymru i ennill pencampwriaeth bocsio byd.
Fe drechodd Jessica McCaskill o Chicago ym mis Mai eleni i hawlio pencampwriaeth pwysau welter y WBA.
Wedi'r ornest nos Sadwrn dywedodd: "Mae cyflymdra yn dod â phŵer ac fe wnes i fwynhau fy hun heno.
"Roeddwn i'n awyddus i wneud rhywfaint o ddatganiad."
Dywedodd hefyd ei bod yn awyddus i weld gornestau bocsio mawr yn digwydd yng Nghymru.
Fe fydd hi nawr yn mynd ymlaen i herio'r bencampwraig Natasha Jonas ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai
- Cyhoeddwyd10 Mai