'Ni'n mynd i golli pobl, achos bo' nhw'n oer'

Mae cynghorydd yn Sir Benfro wedi rhybuddio y gallai pobl farw os nad yw problemau gyda chyflenwadau trydan yn cael eu datrys.

Mae miloedd o bobl yn wynebu eu pedwerydd diwrnod heb drydan wedi i Storm Darragh daro Cymru dros y penwythnos.

Mewn rhai mannau mae cwsmeriaid bellach ar ddeall y gallen nhw orfod aros tan nos Iau nes cael eu hailgysylltu.

Dywedodd y Cynghorydd Iwan Ward o ardal Blaenffos fod yna beryg y bydd pobl yn marw oherwydd yr oerfel.

"Ma'n hala fi deimlo'n drist iawn, ma' pobl mas 'na sy'n sythu - a fi'n ofni os yw hyn yn cadw fynd, ni'n mynd i golli pobl," meddai.

"Ni'n mynd i golli pobl yn yr ardal achos bo' nhw'n oer. 18th century problems in the 21st century.

"Wi'n o emosiynol achos dwi'n 'neud hyn i'r bobl, i'r gymuned, a ma'n raid i ni sortio hwn mas."

Mae yna alw ar y cwmnïau trydan i baratoi mwy at gyfer stormydd difrifol, cyflenwi generaduron dros dro a helpu pobl wybod yn well pa mor hir maen nhw'n debygol o fod heb drydan.

Mae'r cwmnïau sy'n cyflenwi Cymru yn dweud bod "y storm fwyaf y mae ein rhabarth wedi ei wynebu mewn degawdau" wedi achosi "difrod sylweddol" i'r rhwydwaith.