Pobl yn wynebu bod heb drydan 'tan ddydd Iau' wedi Storm Darragh
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o bobl yn wynebu eu pedwerydd diwrnod heb drydan wedi i Storm Darragh daro Cymru dros y penwythnos.
Mewn rhai mannau mae cwsmeriaid bellach ar ddeall fe allen nhw orfod aros tan nos Iau nes cael eu hailgysylltu.
Mae yna alw ar y cwmnïau trydan i baratoi mwy at gyfer stormydd difrifol, cyflenwi generaduron dros dro a helpu pobl wybod yn well pa mor hir maen nhw'n debygol o fod heb drydan.
Mae'r cwmnïau sy'n cyflenwi Cymru yn dweud bod "y storm fwyaf y mae ein rhabarth wedi ei wynebu mewn degawdau" wedi achosi "difrod sylweddol" i'r rhwydwaith.
Dywedodd National Grid bod agos i 10,000 o adeiladau heb gyflenwad yn y de a'r gorllewin am 21:30 nos Fawrth, ond eu bod wedi adfer cyflenwadau i 700,000 o adeiladau ers dechrau'r storm.
Roedd SP Energy Networks yn amcangyfrif nos Fawrth bod tua 1,000 yn dal heb drydan yn y gogledd a'r canolbarth.
Yn y cyfamser, mae llefarydd ar ran porthladd Caergybi wedi cadarnhau y bydd safle yn parhau ar gau tan 17:15 ddydd Mercher wrth iddyn nhw gynnal "asesiad manwl" o'r difrod gafodd ei achosi i "seilwaith y porthladd" yn ystod y storm.
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr
Parhau mae'r gwaith clirio ym mhentref Pontrhydfendigaid ger Tregaron yng Ngheredigion wedi'r storm, a achosodd lifogydd yn ogystal â thoriadau trydan.
Dywed y newyddiadurwr John Meredith, sydd heb drydan ers ben bore Sadwrn, bod peirianwyr "yn gweithio'n galed" i drwsio llinellau trydan.
"Ma'r bechgyn yn gweithio dan amgylchiadau peryglus iawn felly ma' diogelwch yn holl bwysig sydd yn arafu'r broses," dywedodd wrth raglen Dros Frecwast.
"Ond yr hyn sy'n gwylltio fi ar hyn o bryd yw: gethon ni wybod i ddechrau y byddai'r trydan nôl am chwech o'r gloch nos Sul. Yna mi a'th hynny yn chwech o'r gloch bore dydd Llun.
"Yna mi aeth hi'n wyth o'r gloch heno, a nawr ma' nhw 'di gweud bydd dim trydan gen i tan wyth o'r gloch nos Iau."
Heb drydan i bweru'r offer sy'n pwmpio dŵr i'w gartref gwledig, bu'n rhaid iddo gael dŵr mewn tanciau gan ei fab yn Aberystwyth, ac mae'n dweud eu fod yn "ffodus bod gyda ni hob nwy".
Ond mae yna broblemau mawr o ran cyfathrebu, meddai.
"Dyw ffôn y tŷ ddim yn gweithio, dyw'r rhyngrwyd ddim yn gweithio. Ma' nhw'n gweud bod nhw mynd i hala neges i chi ar y rhyngrwyd neu bod ni medru cysylltu drwy'r rhyngrwyd ond wrth gwrs 'yn ni methu achos does dim pŵer gyda ni.
"[Mae 'na] wers i ddysgu o hyn ond isie National Grid falle rhoi gwell amcangryfri. Pe bai nhw 'di gweud dydd Sul 'Gwrandewch, mae'n bosib bydde dim trydan gyda chi am bum diwrnod... bydden ni 'di gallu gwenud gwell darpariaeth.
"Heddi dwi trial ffeindo generator. Bydden ni 'di neud hynny nos Sul a bydda'r broblem tipyn yn llai."
Mae pobl yn ardal Blaenffos yng ngogledd Sir Benfro hefyd yn debygol o fod heb drydan am ychydig ddyddiau eto.
Dywedodd y Cynghorydd Iwan Ward bod amcangyfrif amseriad ailgysylltu ei gartref yntau "wedi newid bob dydd - ni 'di ca'l gwybod hwyr neithiwr bydde fe'n mynd nôl am 10 or gloch nos Iau".
Er yn canmol gwaith caled y "timoedd ar y ddaear", mae'n rhybuddio y gallai pobl farw os nad yw problemau gyda chyflenwadau trydan yn cael eu datrys.
"Ma'n hala fi deimlo'n drist iawn, ma' pobl mas 'na sy'n sythu - a fi'n ofni os yw hyn yn cadw fynd, ni'n mynd i golli pobl," meddai.
"Ni'n mynd i golli pobl yn yr ardal achos bo' nhw'n oer. 18th century problems in the 21st century.
"Wi'n o emosiynol achos dwi'n 'neud hyn i'r bobl, i'r gymuned, a ma'n raid i ni sortio hwn mas."
'Cadw'n gynnes' yn her yn ystod triniaeth ganser
Wedi pedwar diwrnod heb drydan, roedd adfer y cyflenwad trydan yn rhyddhad mawr i Gareth Owen, sydd yn derbyn triniaeth am ganser ar hyn o bryd.
Dywedodd fod y cyfnod wedi bod yn "eithaf anodd... i gadw'n gynnes yn fwy na dim".
"Dwi wedi cael cemotherapi, wedi cael pedwar treatment cemotherapi yn Ysbyty Bronglais, mae hwnna wedi gwneud pethe yn fwy anodd, trio cadw'n gynnes."
Oherwydd ei salwch, dywedodd ei fod yn "teimlo'r oerfel yn waeth na dim byd" a'i fod wedi "trio aros yn y tŷ" yn ystod y cyfnod heb drydan.
Dywedodd Veronica Picton sy'n ffermio yn Nhŷ Mawr, Boncath fod y sefyllfa wedi bod yn "hunllef".
Er bod ei chyflenwad trydan wedi dychwelyd erbyn hyn, dywedodd fod hanner y pentref yn parhau heb bŵer.
"Ma' ffermwyr mas ym mhob tywydd ta bynnag ond mae'n eithriad i gael popeth ar red alert.
"Ni'n ffodus, o'dd rhaid i ni gael y generator ne' fydden ni ddim yn gallu godro. Ma' hynny'n dod â phroblemau arall, ond dyw generator ddim yn gallu gwneud popeth."
Aeth ymlaen i ddweud bod effaith y storm yn mynd i gymryd "wythnosau i glirio lan, ma' gymaint o goed".
Trist gweld siop yn gorfod taflu stoc
Mae "rhyw 10 o dai, falle a dau fusnes - yn siop leol yn un ohonyn nhw" yn rhan isaf pentref Cerrigydrudion, yn Sir Conwy, heb drydan ers bore Sadwrn, yn ôl cynghorydd sir ward Uwchaled, Gwennol Ellis.
"Ma'r siop wedi bod ar agor am 'chydig oria' bob dydd ers colli'r trydan er mwyn darparu'r nwydde hanfodol," dywedodd wrth Dros Frecwast.
"Mi oedd hi'n drist iawn gweld nhw ddoe yn gorfod taflu cynnyrch da sydd wedi difetha... erbyn hyn mae'n andros o oer i fod yn unrhyw le i weithio.
"Ond dwi'n pryderu'n fawr iawn rŵan am y bobl sy'n byw yn y tai cyfagos - llawer ohonyn nhw efo afiechydon hirdymor ac yn fregus."
Cyfathrebu, meddai, yw'r "lleia o'n probleme ni ar hyn o bryd", gan fod y mwyafrif o bobl â ffonau symudol gan ddefnyddio'r cysylltiad 4G lleol.
Mae gan y rhan fwyaf o bobl "deuluoedd o'u cwmpas i'w helpu - ond mae rhai sydd heb".
Bu Gwennol Ellis ei hun heb drydan am 28 awr, a'r "anhawster mwya' ydi 'dan ni ddim yn siŵr lle mae'r broblem na pryd yn iawn bydd yn cael ei datrys".
"Pan 'dach chi heb drydan a heb ola' 'dach chi'n gallu dod i ben â hynny, ond pan 'dach chi'n oer mae'r oerfel 'na yn y diwedd yn mynd i fêr eich esgyrn chi a dwi'n poeni rŵan am y bobl ma' sydd yn fregus."
"Dwi'm yn gw'bod be 'sach chi 'di gallu 'neud i baratoi ar gyfer y storm ddydd Sadwrn, oedd yn erchyll - o'dd hi'n beryglus i fynd allan i 'neud dim byd.
"Ond pan 'nes i siarad efo SP Energy Networks ddoe 'nes i wofyn oedd modd ca'l generator go gry' ar gyfer y busnese er mwyn iddyn nhw fedru cario ymlaen ond doedd ganddyn nhw ddim un ar ôl.
"Falle mai nhw sydd angen 'neud y paratoi ar gyfer y stormydd yn hytrach na pobl gyffredin.... i'r dyfodol falle bod rhaid i nhw ga'l ryw ddarpariaeth wrth gefn ar gyfer sefyllfa fatha beth sy'n digwydd ar hyn o bryd."
'Gweithio drwy'r dydd a nos'
Mewn datganiad, dywedodd National Grid mai Storm Darragh yw un o'r mwyaf i daro'r ardal ers degawdau.
Dywedodd Roisin Quinn o'r cwmni bod "peirianwyr, stafelloedd rheoli, canolfannau cyfathrebu a thimau cefnogaeth wedi bod yn gweithio drwy'r dydd a nos i adfer pŵer i'r rhwydwaith".
Ychwanegodd eu bod yn delio gyda nifer uchel iawn o alwadau i'w canolfannau cyswllt, a'i bod yn cymryd hirach na'r arfer i gwsmeriaid gael ateb.
Mae SP Energy Networks wedi cael cais am sylw fore Mawrth.