Vaughan Roderick: 'Ble nesa' i'r Blaid Lafur?'
Yn dilyn ymddiswyddiad Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, mae'r dyfalu ynglŷn â phwy fydd arweinydd nesa'r Blaid Lafur wedi dechrau.
Dywedodd Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick: "Mae 'na nifer o fewn y grŵp yn y Senedd sy'n benderfynol na ddylai Jeremy Miles olynu Vaughan Gething.
"Maen nhw'n awgrymu efallai bod Jeremy Miles wedi bod yn cynllwynio y tu ôl i gefn Mr Gething a bod angen rhywun all uno'r blaid, ond mae'n anodd gweld pwy yw'r person hwnnw o feddwl bod 'na etholiad i'r Senedd o fewn rhyw 18 mis."