Vaughan Gething yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru

Vaughan Gething
  • Cyhoeddwyd

Mae Vaughan Gething wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo o'i rôl fel Prif Weinidog Cymru.

Yn dilyn cyfarfod o aelodau'r blaid yn Senedd Cymru, fe gyhoeddodd Mr Gething y byddai'n "dechrau'r broses o gamu i lawr" fel arweinydd Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae wedi bod o dan bwysau ers cyn dod yn brif weinidog ym mis Mawrth oherwydd rhoddion dadleuol i'w ymgyrch i fod yn arweinydd ei blaid, ac yn fwy diweddar am ddiswyddo un o'i weinidogion.

Fe gollodd bleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd ddechrau Mehefin, ac fe ymddiswyddodd pedwar aelod blaenllaw o'i gabinet fore Mawrth.

Mewn datganiad personol yng Nghyfarfod Llawn y Senedd yn y prynhawn, dywedodd y bydd "nawr yn trafod amserlen ar gyfer ethol arweinydd newydd fy mhlaid" a'i fod yn disgwyl i olynydd fod yn ei le "yn gynnar yn yr hydref".

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod disgwyl iddo ad-drefnu'r cabinet yn y dyddiau nesaf.

'Penderfyniad anodd'

Mewn datganiad ysgrifrenedig yn gynharach, dywedodd Mr Gething: "Y bore 'ma, rwyf wedi gwneud y penderfyniad anodd i ddechrau'r broses o ildio fy swyddogaeth fel arweinydd Plaid Lafur Cymru ac, o ganlyniad, fy swyddogaeth fel Prif Weinidog Cymru.

"Ar ôl cael fy ethol yn arweinydd fy mhlaid ym mis Mawrth, roeddwn wedi gobeithio y gallai cyfnod o fyfyrio, ailadeiladu ac adnewyddu ddigwydd o dan fy arweinyddiaeth dros yr haf.

"Rwy'n cydnabod nawr nad yw hyn yn bosibl.

"Mae wedi bod yn fraint o'r mwyaf imi wneud y swydd hon hyd yn oed am ychydig fisoedd."

Ychwanegodd: "Mae'r cyfnod hwn wedi bod yn anodd, yn wir yr anoddaf, i mi a'm teulu.

"Mae honni cynyddol, ac iddo gymhellion gwleidyddol, fod rhyw fath o gamwedd wedi digwydd wedi bod yn niweidiol ac yn gyfan gwbl anwir.

"Mewn 11 mlynedd fel gweinidog, nid wyf erioed wedi gwneud penderfyniad er budd personol. Nid wyf erioed wedi camddefnyddio na cham-drin fy nghyfrifoldebau gweinidogol."

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lesley Griffiths a Mick Antoniw, dau o'r aelodau a ymddiswyddodd o'r llywodraeth, yn eistedd tu ôl i Mr Gething wrth iddo wneud datganiad personol i'r Senedd

Y pedwar aelod a gyhoeddodd ddydd Mawrth eu bod yn gadael y llywodraeth oedd Julie James, Lesley Griffiths, Jeremy Miles a'r Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw.

Daeth eu hymadawiad wedi wythnosau o helbul gwleidyddol i Vaughan Gething, a gymerodd yr awenau oddi wrth Mark Drakeford ym mis Mawrth.

Mae Mr Gething wedi colli pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd, ac wedi cael ei gwestiynu dros gyfraniad i'w ymgyrch o £200,000 gan David Neal, dyn busnes a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.

Mae hefyd wedi wynebu cwestiynau ynghylch neges a gafodd ei rhyddhau i'r cyfryngau a ddangosodd iddo ddweud wrth weinidogion eraill yn 2020 ei fod yn dileu testunau o sgwrs grŵp - rhywbeth y gwadodd iddo ei wneud.

Mae ei benderfyniad i ddiswyddo gweinidog yn sgil hynny wedi ychwanegu at y ffraeo.

Gwadodd Hannah Blythyn mai hi oedd ffynhonnell y stori, ond dywedodd Mr Gething fod y dystiolaeth fod y negeseuon wedi dod o'i ffôn yn syml ac ychydig cyn ei ymddiswyddiad, fe gyhoeddodd y dystiolaeth dan sylw.

'Tristwch mawr'

Dywedodd Jeremy Miles, a heriodd Mr Gething am yr arweinyddiaeth ac a oedd yn Ysgrifennydd dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, ar X: "Mae gwasanaethu yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn fraint aruthrol ac yn gyfrifoldeb difrifol.

"Gyda thristwch mawr y byddaf yn ymddiswyddo heddiw."

Dywedodd Lesley Griffiths, oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol y bu hi'n "fraint aruthrol i fod wedi gwasanaethu yn Llywodraeth Cymru mewn nifer o rolau gweinidogol dros y 14 mlynedd ddiwethaf".

"Fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau presennol a heb fawr o dystiolaeth i awgrymu y bydd pethau’n gwella o dan eich arweinyddiaeth, rwy’n cyflwyno fy ymddiswyddiad o'r Cabinet. Rwy'n gwneud hynny â chalon drom iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Y pedwar aelod o'r llywodraeth a ymddiswyddodd fore Mawrth - Jeremy Miles, Julie James, Mick Antoniw a Lesley Griffiths

Roedd Julie James yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.

Meddai mewn llythyr ato: "Ni welaf unrhyw ffordd o gytuno ar gyllideb na sut y gallwn gyflawni ein huchelgeisiau deddfwriaethol."

Ychwanegodd: "Ni all hyn fod yr hyn yr oeddech ei eisiau ac mae'n rhaid ei fod wedi achosi llawer o boen i chi a'ch teulu ac rwy'n meddwl ei fod yn amlwg wedi achosi rhaniadau enfawr yn y grŵp ac wedi niweidio'r wlad a'r blaid, rwy'n meddwl ei fod hefyd bellach yn bygwth parhad y daith ddatganoli."

Dywedodd Mick Antoniw yn ei lythyr ymddiswyddiad: "Rhaid i mi eich hysbysu nad wyf yn credu y gallwch barhau fel prif weinidog.

"Mae angen llywodraeth hyderus a sefydlog ar Gymru. Nid wyf yn credu eich bod yn gallu cyflawni hynny.

"Rydych wedi colli pleidlais o hyder yn y Senedd. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n ystyried ei fod o bwysigrwydd cyfansoddiadol mawr.

“Rwy’n credu ei bod hi’n angenrheidiol nawr i chi ddewis rhoi’r wlad yn gyntaf ac ymddiswyddo fel prif weinidog er mwyn caniatáu etholiad ar gyfer prif weinidog newydd ac arweinydd Llafur Cymru.”

Disgrifiad,

Dadansoddiad Vaughan Roderick ar ddiwrnod arwyddocaol yn hanes Senedd Cymru

'Hen bryd iddo ymddiswyddo'

Wrth ymateb i ymddiswyddiad Vaughan Gething, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: "Roedd hi'n hen bryd i Vaughan Gething ymddiswyddo.

"Ond does dim dwywaith fod ei gydweithwyr Llafur, o'r rhai a ymddiswyddodd heddiw yr holl ffordd i fyny at Keir Starmer, wedi sefyll wrth ei ochr ac ar fai am y chwalfa mewn llywodraethu yng Nghymru."

Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi mynd gam ymhellach a galw am etholiad brys, gan ddadlau bod "pobl Cymru'n colli ffydd yng ngallu Llafur i lywodraethu".

Awgrymodd mai "anhrefn" fyddai cael trydydd Prif Weinidog Llafur mewn saith mis a bod y blaid "yn dilyn 25 mlynedd wrth y llyw... ddim yn gallu ailadeiladu ac adfywio o du mewn".

Yn ôl arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, roedd y penderfyniad i ymddiswyddo yn un "cywir ond roedd yn rhy hir yn dod".

Dywedodd bod "Llafur Cymru wedi ein gadael mewn sefyllfa druenus" a bod ei phlaid eisiau gweld camau i osgoi sgandalau "gan gynnwys cap ar roddion gwleidyddol".

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething gyda phrif weinidog newydd y DY, Syr Keir Stamer yn Senedd Cymru union wythnos cyn ei ymddiswyddiad

Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, wedi dymuno'n dda i Mr Gething ar gyfer y dyfodol gan ddiolch iddo "am ei wasanaeth fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru".

"Dylai Vaughan gymryd balchder mawr mewn bod yr arweinydd du cyntaf ar unrhyw wlad yn Ewrop," dywedodd mewn datganiad.

"Bydd y cyflawniad hynny wedi ehangu uchelgais cenhedlaeth o bobl ifanc yng Nghymru a thu hwnt.

"Rwy'n gwybod pa mor anodd yw'r penderfyniad hwn iddo - ond rydw i hefyd yn gwybod ei fod wedi ei wneud am ei fod yn teimlo mai dyma'r penderfyniad gorau i Gymru."

Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens hefyd wedi "diolch i Vaughan am ei wasanaeth" mewn sawl rôl dros 11 mlynedd.

Dywedodd bod hi'n fater nawr i Lafur Cymru benderfynu pwy fydd yn ei olynu.

Angen sefydlogrwydd - a thosturi at wleidyddion

Yn ôl y corff sy'n cynrhychioli busnesau yng Nghymru, fe fydd y sector angen sicrwydd gan Lywodraeth Cymru o'r "sefydlogrwydd gwleidyddol sydd ei angen i ddenu buddsoddiad a chreu swyddi".

Ychwanegodd cyfarwyddwr CBI Cymru, Ian Price: "Pwy bynnag sy'n dod yn brif weinidog bydd rhaid iddo/iddi daclo pryderon economaidd Cymru - gan gynnwys delio ar frys gyda dyfodol Tata Steel."

Mae Archesgob Cymru wedi galw am dosturi a pharch tuag at wleidyddion yn dilyn ymddiswyddiad Mr Gething.

"Mae pobl sy'n barod i ysgwyddo cyfrifoldebau, a risgiau, bywyd gwleidyddol yn haeddu ein parch am eu parodrwydd i wasanaethu'r cyhoedd," dywedodd yr Archesgob Andrew John.

"Er bod angen beirniadu weithiau, mae trugaredd bob amser yn hanfodol, ac yn yr ysbryd hwnnw byddwn yn gweddïo dros bawb sy'n ymwneud â'r profiad poenus hwn wrth iddynt geisio gwasanaethu pobl Cymru."