Creu ffrindiau oes trwy wirfoddoli yn Eisteddfod yr Urdd
O'r athrawon i'r stiwardiaid a'r hyfforddwyr, mae'r Eisteddfod yn ddibynnol ar wirfoddolwyr.
Mae 5,000 o oriau gwirfoddol wedi mynd i mewn i wireddu'r Eisteddfod, meddai'r prif weithredwr Sian Lewis.
Dywed Sioned Page Jones sy'n hyfforddi Aelwyd Hafodwennog a Chlocswyr Cowin ei bod hi'n "bwysig bod ni'n rhoi 'nôl i'r bobl ifanc hyn nawr a bod nhw'n cael yr un cyfle a ni wedi cael dros y blynyddoedd".
Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn y babell groeso trwy'r wythnos hefyd yn croesawu pobl i'r maes.
Dywed un o'r gwirfoddolwyr ei fod yn "hanfodol bod ni'n dod yma i gynrychioli'r pwyllgorau i gyd ac i helpu pethau i redeg yn rhwydd".
Bydd Tlws John a Ceridwen Hughes yn cael ei roi i Menna Williams am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru ar y maes yn ystod y bore.