Peel yn 'blês iawn' fod Ellis Mee yng ngharfan Cymru

Mae prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel yn "blês iawn" fod Ellis Mee wedi cael ei enwi yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae'r asgellwr 21 oed wedi creu argraff yn ei dymor cyntaf gyda'r Scarlets ar ôl iddo ymuno o glwb Nottingham, sy'n chwarae yn y Bencampwriaeth yn Lloegr.

Mae Mee yn gymwys i chwarae dros Gymru gan fod ei fam yn dod o Gasnewydd yn wreiddiol.