Enwau mawr yn dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae Taulupe Faletau a Josh Adams ymhlith yr enwau mawr sydd yn dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Mae'r prif hyfforddwr, Warren Gatland wedi enwi carfan o 34 o chwaraewyr ar gyfer y gystadleuaeth fydd yn dechrau ar 31 Ionawr.
Mae Dafydd Jenkins, Liam Williams, Joe Roberts ac Elliot Dee hefyd wedi eu cynnwys yn y garfan ar ôl methu Cyfres yr Hydref oherwydd anafiadau.
Hefyd wedi eu cynnwys yn y garfan mae dau chwaraewr sydd heb ennill cap hyd yn hyn – sef maswr y Gweilch, Dan Edwards ac asgellwr y Scarlets, Ellis Mee.
- Cyhoeddwyd7 Ionawr
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2024
Mae'r garfan - sydd ag oedran cyfartalog o 26 - yn dal yn ifanc ac yn gymharol ddibrofiad.
Mae wyth o chwaraewyr sydd eto i gynrychioli Cymru yn y Chwe Gwlad yn y 34, gan gynnwys Ellis Bevan, Josh Hathaway, Eddie James, Blair Murray a Freddie Thomas - enillodd eu capiau cyntaf yn ystod 2024.
Blaenasgellwr y Gweilch, Jac Morgan sydd wedi ei ddewis yn gapten yn absenoldeb y bachwr Dewi Lake oherwydd anaf.
Ni fydd Ryan Elias, Sam Costelow, Adam Beard, Ben Carter, Archie Griffin na Mason Grady ar gael i'r gystadleuaeth oherwydd anafiadau.
Dim ond dau faswr sydd wedi eu cynnwys yn y garfan eleni, ac un o'r rheini yw Dan Edwards sydd eto i chwarae gêm ryngwladol.
Er hynny mae canolwr Caerdydd, Ben Thomas yn gallu chwarae fel maswr hefyd.
Mae Taulupe Faletau - sydd heb chwarae gêm brawf i Gymru ers Cwpan y Byd 2023 oherwydd anaf - yn dychwelyd.
Mae'r wythwr profiadol wedi methu pob un o'r 12 gêm y mae Cymru wedi eu colli yn olynol.
Ymhlith y chwaraewyr amlycaf sydd ddim wedi eu dewis gan Gatland mae Gareth Anscombe, Max Llewellyn, Rio Dyer, Cameron Winnett a Taine Plumtree.
Wrth gyhoeddi'r garfan, dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: "Ry'n ni wedi dewis carfan sydd â chydbwysedd a chyfuniad o brofiad a thalent ifanc hefyd.
"Mae gan y grŵp yma lawer iawn o addewid a byddwn yn gweithio hyd eitha'n gallu yn ystod yr ymgyrch hon.
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael y bechgyn at ei gilydd yr wythnos nesaf. Bydd pob sesiwn ymarfer unigol yn bwysig iawn yn ein paratoadau ar gyfer her y Ffrancwyr.
"Yn anffodus, bydd nifer o chwaraewyr yn siomedig nad ydyn nhw wedi cael eu cynnwys yn y garfan y tro yma – ond fy neges syml i'r unigolion hynny yw – parhewch i weithio'n galed rhag ofn bod pethau'n newid cyn neu yn ystod y bencampwriaeth."
Fe fydd ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn dechrau gyda gêm oddi cartref yn erbyn Ffrainc ar nos Wener, 31 Ionawr.
Bydd Cymru wedyn yn herio'r Eidal yn Rhufain ar 8 Chwefror cyn croesawu Iwerddon i Gaerdydd ar 22 Chwefror.
Ar ôl teithio i Gaeredin i herio'r Alban ar 8 Mawrth, fe fydd ymgyrch Cymru yn dod i ben gyda gêm gartref yn erbyn Lloegr ar 15 Mawrth.
Fe orffennodd Cymru ar waelod y tabl ym mhencampwriaeth y llynedd ar ôl colli pum gêm allan o bump.
Carfan Cymru yn llawn
Blaenwyr: Keiron Assiratti, James Botham, Elliot Dee, Taulupe Faletau, Dafydd Jenkins, WillGriff John, Evan Lloyd, Kemsley Mathias, Jac Morgan (C), Sam Parry, Tommy Reffell, Will Rowlands, Nicky Smith, Gareth Thomas, Freddie Thomas, Henry Thomas, Christ Tshiunza, Aaron Wainwright, Teddy Williams.
Olwyr: Josh Adams, Ellis Bevan, Dan Edwards, Josh Hathaway, Eddie James, Ellis Mee, Blair Murray, Joe Roberts, Tom Rogers, Ben Thomas, Nick Tompkins, Owen Watkin, Liam Williams, Rhodri Williams, Tomos Williams.