'Mabli oedd yr heulwen oedd yn goleuo ein bywydau'
Mae tad-cu merch wyth mis oed fu farw wedi dweud mai hi oedd yr "heulwen oedd yn goleuo ein bywydau".
Bu farw Mabli Cariad Hall ar ôl cael ei tharo gan gar menyw 71 oed tu allan i ysbyty ym mis Mehefin 2023.
Ddydd Iau, cafodd Bridget Carole Curtis bedair blynedd o garchar ar ôl pleidio'n euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Wrth roi datganiad tu allan i'r llys wedi'r ddedfryd, dywedodd Paul Sambrook fod yn rhaid i'r teulu "ganolbwyntio ar helpu plant eraill y teulu i ymdopi gyda'r golled a ffurfio ffordd newydd ymlaen".
"Os oes unrhyw beth i'w ddysgu mas o'r poen a'r brofedigaeth, dyma beth yw e... cymerwch ofal pob tro rydych chi'n eistedd tu ôl olwyn eich car.
"Dylai neb gorfod mynd trwy'r poen yma byth eto," meddai.