Carcharu menyw, 71, am achosi marwolaeth babi wyth mis oed
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 71 oed wedi cael pedair blynedd o garchar ar ôl iddi gyfaddef achosi marwolaeth babi wyth mis oed.
Roedd Mabli Cariad Hall o Gastell-nedd yn ei phram y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg pan gafodd ei tharo gan gar Bridget Carole Curtis ym Mehefin 2023.
Bu farw'r ferch fach bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn Ysbyty Plant Bryste yn dilyn anaf difrifol i'w hymennydd.
Roedd Curtis, o Fegeli, Sir Benfro, wedi pledio'n euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Dywedodd bargyfreithiwr Curtis y gallai "dryswch pedalau" fod wedi digwydd, a'i bod wedi dangos "gwir edifeirwch" ers y digwyddiad.
Cafodd Curtis hefyd ei gwahardd rhag gyrru am wyth mlynedd.
Fe glywodd y llys fod Curtis wedi colli rheolaeth ar y car wrth iddi "chwilio am fag" ar sedd gefn y cerbyd.
Dyna pryd y tarodd grŵp o bobl tu allan i fynedfa'r ysbyty.
Cafodd tad Mabli, Rob, ei anafu yn y digwyddiad ac roedd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau, ynghyd â theulu ehangach Mabli.
Fe glywodd y llys mewn gwrandawiad blaenorol fod gan Curtis drwydded yrru glir, pan blediodd yn euog i'r cyhuddiad yn ei herbyn.
Taro grŵp o bobl ar 29mya
Clywodd y gwrandawiad dedfrydu bod teulu Mabli yn ymweld â'i mam-gu yn yr ysbyty ar ddiwrnod y gwrthdrawiad, a bod ei thad, Rob, wedi mynd â Mabli tu allan.
Fe glywodd y llys fod Curtis wedi stopio tu allan i'r ysbyty a helpu ei merch i chwilio am fag ar sedd gefn y car, ond roedd y cerbyd dal wedi'i danio.
Dyna pryd y dechreuodd y car gyflymu allan o reolaeth.
Dywedodd y bargyfreithiwr Craig Jones fod data wedi awgrymu fod y car wedi cyflymu am bedwar eiliad nes cyrraedd 29 milltir yr awr, ac na chafodd y brêc ei ddefnyddio.
Fe welodd y llys fideo o'r car yn taro grŵp o bobl ger coeden gyferbyn â mynedfa'r ysbyty.
Wrth afael yn dynn mewn tegan meddal, fe safodd Rob a Gwen Hall - rhieni Mabli - yn y llys a dweud bod eu teulu "ar chwâl" wedi'r digwyddiad.
"Dyw hyn ddim yn ddatganiad y dylai unrhyw un orfod gwneud, yn enwedig tad babi wyth mis oed, diniwed," dywedodd Mr Hall.
"Roedd hi'n eistedd yn ei phram. Dwi'n cofio hi'n gwenu arna i. Mor hapus.
"Mae sŵn sgrialu'r car, wrth iddo ddod dros y palmant, yn rhywbeth dwi'n ei weld a'i glywed yn ddyddiol.
"Dwi'n cofio gweiddi, ac yna'r arswyd, o weld corff di-fywyd Mabli ym mreichiau rhywun arall.
"Mae wedi bod mor anodd byw y bywyd hwn. Mae bob dydd yn her newydd i ni."
Dywedodd fod gan Mabli bedair chwaer a brawd oedd "yn ei charu gymaint ag yr oedd hi yn eu caru nhw".
'Gwylio ein babi yn marw yn ein breichiau'
Ychwanegodd Ms Hall fod ei bywyd wedi newid am byth.
"Mae manylion y diwrnod hwnnw yn amrwd yn fy meddwl ac yn cael eu hailadrodd bob dydd," dywedodd.
"Roedd gymaint gyda ni wedi ei gynllunio gyda hi. Hi oedd fy mabi, fy mabi wyth mis oed.
"Mae fy nghalon yn torri. Fe wnaethon ni wylio ein babi yn marw yn ein breichiau.
"Roedd Mabli mor alluog, mor bert, mor llawn o gariad. Hi oedd cannwyll ein llygaid."
Dywedodd y bargyfreithiwr John Dye ar ran Bridget Curtis nad "gweithred fwriadol" oedd hon, ac y gallai "dryswch pedalau" fod wedi digwydd.
"Dyma fam-gu 71 oed sy'n dangos gwir edifeirwch. Mae'n achos trasig a thrist," meddai.
'Anodd dychmygu achos mwy di-ofal'
Ond wrth ei dedfrydu, dywedodd y barnwr Geraint Walters fod bywydau teulu Mabli wedi newid am byth, ac mai Bridget Curtis sy'n gyfrifol am hynny.
"Fe gafodd bywyd [Mabli] ei chymryd oddi wrthi yn ddisynnwyr, yn ddiangen, oherwydd eich gweithredoedd chi," meddai.
"Mae'r olygfa o'r car yn cyflymu, cyn y gwrthdrawiad, yn rhywbeth na all geiriau ddisgrifio. Mae'n rhaid ei weld er mwyn ei gredu.
"Dwi'n derbyn yn llawn na wnaethoch chi fwriadu anafu unrhyw un, ond mae'n anodd dychmygu achos mwy di-ofal, ac o ganlyniad, peryglus."
Dywedodd Michael Cray o Wasanaeth Erlyn y Goron ei fod yn gobeithio y bydd y ddedfryd yn "atgoffa pob modurwr o'r cyfrifoldebau difrifol sy'n gysylltiedig â bod yn yrrwr".
"Does dim byd yn gallu newid digwyddiadau trasig y diwrnod hwnnw, ac er bod yr achos troseddol wedi dod i ben, rydyn ni'n dal i feddwl am deulu Mabli a'u colled dorcalonnus, yn ogystal â phawb a gafodd ei anafu ar y diwrnod hwnnw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2024
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd22 Awst 2024