Elin Jones: 'Geraint Jarman oedd trac sain fy ieuenctid'

Mae'r Llywydd Elin Jones wedi rhoi teyrnged i'r canwr, bardd a chynhyrchydd teledu Geraint Jarman yn y Senedd wedi ei farwolaeth yn 74 oed.

Dywedodd Ms Jones mai Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr oedd "trac sain" ei hieuenctid, ac y bydd "ei oes o gerddoriaeth a geiriau yn parhau am hir".

"Mi gyflwynodd Jarman fywyd y brifddinas i farddoniaeth gerddorol yn y Gymraeg, ac mi oedd ei gigs yn chwedlonol," meddai.

Ychwanegodd mai'r "tro diwethaf i fi glywed Geraint Jarman yn canu'n fyw oedd yn Neuadd y Senedd fan hyn yn 2019, ac mi ddywedodd wrtha i, yn gwbl ddiymhongar, taw braint a breuddwyd oedd cael canu ei anthem eiconig, Gwesty Cymru, yn Senedd Cymru".