Latest headlines in Welsh
-
Llafur yn sicrhau 29 sedd
Canlyniadau
Plaid | Ymgeiswyr | Pleidleisiau | % | Newid o ran seddau (%) |
---|---|---|---|---|
Plaid
LLAF Llafur Cymru |
Ymgeiswyr Alun Davies | Pleidleisiau 8,442 | 39.7% | Newid o ran seddau (%) −24.3 |
Plaid
PC Plaid Cymru |
Ymgeiswyr Nigel Copner | Pleidleisiau 7,792 | 36.6% | Newid o ran seddau (%) +31.2 |
Plaid
UKIP Plaid Annibyniaeth y DU |
Ymgeiswyr Kevin Boucher | Pleidleisiau 3,423 | 16.1% | Newid o ran seddau (%) +16.1 |
Plaid
CEID Ceidwadwyr Cymru |
Ymgeiswyr Tracey West | Pleidleisiau 1,334 | 6.3% | Newid o ran seddau (%) +1.0 |
Plaid
DRh Dem Rhydd Cymru |
Ymgeiswyr Brendan D'Cruz | Pleidleisiau 300 | 1.4% | Newid o ran seddau (%) −0.4 |
Newid o'i gymharu â 2011 |
% a bleidleisiodd and Mwyafrif
Llafur Cymru Mwyafrif
650% a bleidleisiodd
42.1%Portread o'r etholaeth
Ym mhen uchaf cymoedd Gwent, mae etholaeth Blaenau Gwent yn cynnwys trefi Glyn Ebwy, Tredegar ac Abertyleri. Ers cau gweithfeydd dur Glyn Ebwy yn 2002, mae'r ardal wedi wynebu problemau sy'n gysylltiedig ag ardaloedd ôl-ddiwydiannol, er bod cynlluniau ar gyfer trac rasio newydd gwerth £300m.
Mae 23% o’r boblogaeth yn byw mewn ardal sy'n cael ei hystyried fel y mwyaf difreintiedig yng Nghymru – 10% yw'r cyfartaledd trwy Gymru.
Yn draddodiadol mae'n gadarnle Llafur, ond yn 2005 cafodd y cyn AC Llafur Peter Law ei ethol yn aelod annibynnol wedi dadl dros restr fer o fenywod yn unig. Wedi ei farwolaeth yn 2007, fe’i olynwyd gan ei weddw Trish Law. Yn etholiad y Cynulliad yn 2011, enillodd Alun Davies o Lafur y sedd yn ôl gyda 64% o'r bleidlais. Ymgeisydd annibynnol ddaeth yn ail gydag 18%, Plaid Cymru oedd drydydd ar 5%, ychydig o flaen y Ceidwadwyr oedd hefyd ar 5%.