Beth nesaf i Non Stanford ar ôl Gemau Olympaidd Rio?

Mis yn unig ar ôl colli allan ar fedal Olympaidd yn y treiathlon yn Rio, mae Non Stanford yn barod i edrych tuag at y dyfodol.

Fe wnaeth y Gymraes orffen yn bedwerydd yn y Gemau Olympaidd, dair eiliad yn unig i ffwrdd o'r fedal efydd.

Mae Stanford yn cystadlu ym Mecsico ar hyn o bryd, ac aeth BBC Cymru yno i'w holi am y Gemau Olympaidd a'i gobeithion at y dyfodol.