Rio: Stanford yn colli allan ar fedal yn y treiathlon

  • Cyhoeddwyd
Stanford a HollandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Non Stanford golli allan ar y trydydd safle i Vicky Holland

Fe wnaeth Non Stanford golli allan ar fedal yn y treiathlon yng Ngemau Olympaidd Rio ar ôl gorffen yn bedwerydd, dair eiliad yn unig i ffwrdd o'r fedal efydd.

Fe wnaeth cyn-bencampwr y byd golli allan ar y trydydd safle i Vicky Holland, oedd hefyd yn cynrychioli Prydain.

Gwen Jorgensen o'r Unol Daleithiau wnaeth ennill aur, gyda Nicola Spirig o'r Swistir yn cipio'r fedal arian.

Roedd gobaith mawr am fedal arall i'r Cymry yn y treiathlon, gyda Stanford a Helen Jenkins yn gobeithio sicrhau eu lle ar y podiwm.

Fe orffennodd Jenkins yn 19eg yn y ras, gan adael y Cymry ar gyfanswm o 10 medal yn Rio.