Teyrnged i chwaraewr rygbi, Eifion Gwynne, oedd yn 'Gymro i'r carn'
Mae Llywydd Clwb Rygbi Llanymddyfri wedi disgrifio cyn chwaraewr i'r clwb fu farw dros y penwythnos fel "Cymro i'r carn".
Bu farw Eifion Gwynne, 41 o ardal Aberystwyth, yn Sbaen ddydd Sadwrn.
Roedd y trydanwr, oedd yn briod â thri o blant, yn adnabyddus yn yr ardal.
Roedd Mr Gwynne yn chwarae rygbi i Aberystwyth ac yn arfer chwarae i Lanymddyfri.
Dywedodd Handel Davies ei fod wastad yn rhoi 100% ac yn "un o'r bois fydde unrhyw un mo'yn e ar ei dîm e".
Ychwanegodd ei fod yn "debyg i Ray Gravell, odd e yn goleuo'r stafell lan".
"Odd ei gymeriad e mor unigryw. Un o'r bois os byddech chi yn cwrdd â fe fyddech chi byth yn anghofio fe."