Dyn o Geredigion wedi marw yn Sbaen
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn o ardal Aberystwyth fu farw ddydd Sadwrn yn Sbaen.
Roedd Eifion Gwynne, 41 oed, yn drydanwr adnabyddus ac yn briod â thri o blant.
Yn ôl adroddiadau, cafodd ei daro gan gar yn nhref Estepona, tua 50 milltir o ddinas Malaga yn ne'r wlad.
Mae'r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau eu bod mewn cyswllt â'r awdurdodau yn Sbaen ynglŷn â marwolaeth dyn y maen nhw'n credu sydd o Brydain.
Roedd Mr Gwynne yn chwarae rygbi i Aberystwyth ac yn arfer chwarae i Lanymddyfri.
Fe gadarnhaodd Clwb Rygbi Aberystwyth ei fod yn aelod o'r clwb ond dywedon nhw na fydden nhw'n gwneud datganiad ar hyn o bryd.
Mae'n debyg fod Mr Gwynne yn Sbaen ar gyfer angladd ffrind i'r teulu oedd yn byw yno.