Cyn-bennaeth: Cwrs CPCP yn 'wastraff amser ac arian'

Mae pryderon wedi'u codi am brinder prifathrawon ar ôl i ymchwil ddangos bod nifer o gynghorau yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd llenwi swyddi penaethiaid.

Mae Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru (NAHT) wedi cyfaddef bod cyrff llywodraethu yn parhau i'w chael yn anodd recriwtio penaethiaid, gan ddweud bod "cyflawni dyletswyddau biwrocrataidd diangen" yn rhwystro rhai rhag gwneud cais.

Roedd Ann Fox oedd brifathrawes Ysgol Gymraeg Bro Ogwr nes yn ddiweddar, ac yn sgwrsio ar raglen Taro'r Post ddydd Gwener roedd hi'n feirniadol iawn o'r cwrs i ddod yn bennaeth - y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth, neu'r CPCP.