Prinder prifathrawon yng Nghymru yn peri pryder

  • Cyhoeddwyd
Athro

Mae pryderon wedi'u codi am brinder prifathrawon ar ôl i ymchwil ddangos bod nifer o gynghorau yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd llenwi swyddi penaethiaid.

Mae Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru (NAHT) wedi cyfaddef bod cyrff llywodraethu yn parhau i'w chael yn anodd recriwtio penaethiaid, gan ddweud bod "cyflawni dyletswyddau biwrocrataidd diangen" yn rhwystro rhai rhag gwneud cais.

Fe wnaeth rhaglen Taro'r Post Radio Cymru gysylltu gyda'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i'w holi am brifathrawon dros dro ac am ail-hysbysebu swyddi.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod mai dyletswydd cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol yw reoli gofynion staffio ysgolion.

125 dros dro

Mae'r ymatebion wedi dangos bod 125 o brifathrawon Cymru yn rhai dros dro - sy'n 8.7% o'r holl benaethiaid - gydag 17 ysgol gynradd ddim yn gallu llenwi swydd pennaeth ar hyn o bryd.

Castell-nedd Port Talbot a Phowys yw'r awdurdodau lleol ble mae'r sefyllfa ar ei waethaf, gyda 21% o holl brifathrawon y sir yn rhai dros dro.

Fe wnaeth 21 awdurdod hefyd ymateb ynglŷn ag ail-hysbysebu swyddi penaethiaid, gydag 89 o swyddi wedi cael eu hysbysebu o leiaf dwywaith yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Roedd 20 o'r rhain yng Ngwynedd yn unig, gyda chynghorau Rhondda Cynon Taf a Sir Fynwy wedi ail-hysbysebu 10 swydd yr un.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas ei fod yn cydnabod bod problemau recriwtio

Dywedodd y cynghorydd Gareth Thomas, sy'n dal y portffolio addysg ar Gyngor Gwynedd, eu bod yn cydnabod bod problem recriwtio prifathrawon.

Ychwanegodd bod y cyngor yn "gweithio gyda'r proffesiwn i geisio dod o hyd i atebion" a bod cyfres o gyfarfodydd eisoes wedi'u cynnal i edrych ar broblemau fel pwysau gwaith penaethiaid.

'Problemau'n parhau'

Ond mae'r NAHT yn rhybuddio y gallai'r sefyllfa waethygu cyn gwella, a bod nifer o benaethiaid presennol yn ystyried newid gyrfa.

Dywedodd cyfarwyddwr polisi NAHT Cymru, Rob Williams: "Mewn sawl ardal ar draws Cymru mae cyrff llywodraethu yn ei chael hi'n anodd penodi'r penaethiaid sydd eu hangen arnyn nhw.

"Hyd nes y bydd rôl yr arweinydd ysgol ddim yn gorfod cyflawni dyletswyddau biwrocrataidd diangen, ac yn gallu canolbwyntio ar sicrhau bod pob disgybl yn gallu datblygu a chyrraedd eu llawn botensial.

"Hefyd, hyd nes y bydd ysgolion yn cael y gefnogaeth gywir gan gynnwys cyllid teg, sy'n her i bawb ar y funud, mae'r NAHT yn credu y bydd y problemau o benodi penaethiaid yn parhau."

Disgrifiad,

Mae cyn-bennaeth Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, Ann Fox yn feirniadol o gwrs Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n ddyletswydd ar gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol i reoli gofynion staffio ysgolion o ddydd i ddydd, ac mae hynny'n cynnwys gwneud trefniadau priodol ar gyfer llenwi swyddi dros dro yn ôl y galw.

"Fis diwethaf, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg Academi Arweinyddiaeth Ysgolion Cenedlaethol i Gymru, gyda'r nod o sicrhau bod gan yr holl arweinwyr y sgiliau a'r wybodaeth gywir i weithredu er budd disgyblion ac i wneud yn siŵr bod ysgolion yn gallu cyflwyno'r cwricwlwm newydd a'r weledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru."

Y gyfradd o brifathrawon sy'n rhai dros dro:

  • Castell-nedd Port Talbot - 21.31%

  • Powys - 21.05%

  • Ynys Môn - 18.75%

  • Gwynedd - 12.9%

  • Sir Benfro - 11.27%

  • Bro Morgannwg - 11.11%

  • Sir Gaerfyrddin - 10.64%

  • Blaenau Gwent - 10.53%

  • Conwy - 10.53%

  • Pen-y-bont ar Ogwr - 8.93%

  • Casnewydd - 8.93%

  • Sir Fynwy - 8.82%

  • Ceredigion - 7.69%

  • Merthyr Tudful - 7.69%

  • Rhondda CYnon Taf - 7.26%

  • Caerffili - 4.76%

  • Abertawe - 3.41%

  • Wrecsam - 3.08%

  • Sir Ddinbych - 1.92%

  • Caerdydd - 1.6%

  • Sir y Fflint - 1.37%

  • Torfaen - 0%

Nifer y swyddi prifathrawon sydd wedi cael eu hail-hysbysebu yn y ddwy flynedd ddiwethaf:

  • Gwynedd - 20

  • Sir Fynwy - 10

  • Rhondda Cynon Taf - 10

  • Caerdydd - 6

  • Caerffili - 6

  • Pen-y-bont ar Ogwr - 6

  • Sir Benfro - 5

  • Ceredigion - 4

  • Ynys Môn - 3

  • Conwy - 3

  • Wrecsam - 3

  • Bro Morgannwg - 3

  • Sir Ddinbych - 3

  • Sir Gaerfyrddin - 2

  • Blaenau Gwent - 2

  • Torfaen - 2

  • Sir y Fflint - 1

  • Castell-nedd Port Talbot - 0

  • Abertawe - 0

  • Casnewydd - 0

  • Merthyr Tudful - 0

  • Powys - Ffigyrau ddim ar gael