Meri Huws: Deddfwriaeth yn 'glogyrnaidd'
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, yn dweud bod y ddeddfwriaeth sydd tu ôl i'r safonau iaith yn "glogyrnaidd".
Daw ei sylwadau wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd y broses o'u llunio yn cael ei adolygu.
Yn ôl y comisiynydd, mae'r ddeddf yn gymhleth ac mae ei gallu i gyflawni ei dyletswydd arall o hybu'r Gymraeg wedi derbyn ergyd ariannol.