Y llywodraeth i adolygu'r broses o lunio'r safonau iaith

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Alun Davies o'r farn bod y safonau presennol yn "rhy gymhleth"

Mae'r safonau iaith yn "rhy gymhleth" a bydd y broses o'u llunio yn cael ei adolygu, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae'r safonau yn gosod dyletswydd ar gynghorau, parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i ddarparu rhai gwasanaethau yn Gymraeg.

Ar raglen Newyddion 9 dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies bod angen edrych eto ar y safonau wrth greu deddf iaith newydd.

Mae'n gobeithio cyflwyno papur gwyn ar y safonau iaith yn y misoedd nesaf fel rhan o adolygiad ehangach o bolisi ar yr iaith Gymraeg.

'Ystyried yr effaith'

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n beth da i ystyried effaith unrhyw gyfraith - mae'n werth ystyried yr effaith yn y gymuned," meddai Mr Davies.

"Pan dwi'n edrych ar y safonau dwi'n gweld rhai sydd yn cael effaith ambell waith gyda chyrff sy'n cynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, ond dwi hefyd yn gweld cymhlethdod - llawer yn rhy gymhleth ambell waith - y broses o greu a'r broses o weithredu."

Cafodd y safonau gwreiddiol eu creu gan Gomisiynydd y Gymraeg, ond cafwyd eu beirniadu gan Lywodraeth Cymru am eu bod yn "rhy gymhleth, afresymol, anghymesur a ddim yn gwneud digon o ystyriaeth o effaith".

Tair blynedd yn ôl fe gyhoeddwyd y safonau dan enw'r llywodraeth.

Disgrifiad,

Yn ôl Meri Huws, mae'r ddeddf yn gymhleth ac yn glogyrnaidd

Yn ôl y Comisiynydd, Meri Huws, mae'r ddeddf yn gymhleth ac mae ei gallu i gyflawni ei dyletswydd arall o hybu'r Gymraeg wedi derbyn ergyd ariannol.

"Un peth sydd wedi dod yn amlwg ydi fod y ddeddfwriaeth bresennol yn glogyrnaidd," meddai.

"Mae 'na gamau biwrocrataidd dianghenraid i mewn yn y ddeddfwriaeth.

"Teg yw dweud nad yw'r toriad yr ydym ni wedi ei brofi yn ystod y tair blynedd ddiwethaf wedi bod o gymorth o ran gwaith hybu a hyrwyddo.

"Mae o wedi bod yn gnoc i'r sefydliad ac mae hynny wedi torri fy nghalon i."

Disgrifiad,

Nid llwybr deddfwriaethol yw'r ffordd i ddenu'r di-Gymraeg, medd John Walter Jones

Mae nifer o awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol wedi herio'r safonau, ac mae cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith, John Walter Jones, yn dweud mai nad y llwybr deddfwriaethol yw'r ffordd i ddenu'r di-Gymraeg.

"Dwi'n credu mewn greddf, nid deddf, a dwi ddim yr unig un sydd yn gweld hynny," meddai.

"Twf mewn niferoedd sydd eisiau, twf mewn parch tuag at yr iaith, a dwi ddim yn credu mai trwy unrhyw fath o orfodaeth y byddwn ni yn gweld hynny.

"Dwi'n gofyn eto, ydy'r bobl ar gael i ddarparu'r gwasanaethau yma? Dwi'n amau."

Beirniadu'r llywodraeth

Ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru fore Gwener, dywedodd cyn-weinidog y Gymraeg, Alun Ffred Jones nad oes dim o'i le gydag ailedrych ar y ddeddfwriaeth i geisio ei symleiddio, ond roedd yn feirniadol o ddiffyg eiddgarwch y llywodraeth i'w roi ar waith.

"Does dim byd o'i le gydag ystyried y ddeddfwriaeth, a gweld os ydy hi'n gweithio, ac oes modd symleiddio, cyn belled nad yw hynny'n arwain at wanio neu lastwreiddio.

"Byddai'n edrych yn ofalus gyda diddordeb i weld beth mae o [Alun Davies] yn ei gynnig.

"Fe ellir gwneud gyda gwella'r drefn, does dim dwywaith am hynny, ond hyd yn hyn, dydi'r llywodraeth ddim wedi dangos unrhyw eiddgarwch i weithredu'r ddeddf bresennol, felly mae angen sicrhau taw symleiddio maen nhw, a gwneud pethau yn haws, yn gyflymach, ac yn fwy effeithiol - nid gwanio."