Brexit: 'Pryderon difrifol' am y diwydiant cig oen
Mae corff Hybu Cig Cymru wedi dweud bod gyda nhw "bryderon difrifol" y bydd Seland Newydd yn sicrhau cytundeb masnach gyda'r DU wedi Brexit, ac y gallai hynny "ddifetha" y diwydiant cig oen yng Nghymru.
Yn siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd cadeirydd y corff, Dai Davies, bod Seland Newydd yn "gweithio'n galed a rhoi llawer o ymdrech" tuag at gael cytundeb masnach.
Er iddo dderbyn bod cyfleoedd newydd i fasnachu yn y dyfodol, dywedodd bod ganddo bryderon.
Daw wedi rhybudd Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru y byddai caniatáu llawer o fewnforion o Seland Newydd yn cael effaith wael ar ddiwydiant Cymru.