Cytundeb masnach i 'ddifetha' diwydiant cig oen Cymru
- Cyhoeddwyd
Gallai'r diwydiant cig oen yng Nghymru gael ei ddifetha os oes cytundeb masnach rydd sy'n caniatáu i lawer iawn o gig o Seland Newydd ddod i mewn i'r wlad, yn ôl ysgrifennydd materion gwledig Cymru.
Dywedodd Lesley Griffiths wrth ACau bod gweinidogion y DU yn teimlo bod ganddyn nhw "bwerau hud" dros amaeth, er ei fod yn fater sydd wedi ei ddatganoli.
Ond ychwanegodd ei bod yn hapus gyda'r trafodaethau diweddaraf yn San Steffan am ddyfodol amaeth ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Daw ei sylwadau wedi rhybudd tebyg gan undeb amaethwyr y byddai lleihau allforion i Ewrop a chynyddu mewnforion o Seland Newydd yn creu problem fawr.
40% o allforion i'r UE
Clywodd pwyllgor materion gwledig y Cynulliad bod hyd at 40% o allforion cig oen Cymru yn mynd i'r UE.
Yn ogystal, clywodd y byddai tariff o 12% i fasnachu gyda'r UE os nad yw'r DU yn llwyddo i ddod i gytundeb masnachu gyda'r undeb wedi Brexit.
Dywedodd Ms Griffiths: "Un o'r sgyrsiau rydyn ni wedi ei gael o amgylch ŵyn yw'r pryder os oes llawer iawn o gig oen o Seland Newydd yn dod i mewn yna bydd yn difetha'r diwydiant cig oen yng Nghymru yn llwyr."
Ychwanegodd bod hynny yn "un o'r trafferthion roedden ni wedi ceisio eu hamlygu cyn y refferendwm".
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhybuddio y byddai cynnydd mewn mewnforion a lleihad mewn allforion i Ewrop yn fygythiad mawr i'r diwydiant yng Nghymru.
Clywodd y pwyllgor hefyd bod 5,000 darn o ddeddfwriaeth yr UE fyddai'n dod dan reolaeth Llywodraeth Cymru wedi Brexit, gan eu bod yn ymwneud a materion datganoledig am amaeth a physgota.
Dywedodd Ms Griffiths bod Llywodraeth y DU yn derbyn hynny ac na fyddai gweinidogion y DU yn ceisio cymryd rheolaeth.
Yn ôl Ms Griffiths, mae hi wedi dweud yn glir bod angen "cydweithio": "Soniais am syniad bod pwerau hud oherwydd mai nhw oedd yr aelod, ond rydyn ni wedi gwneud yn glir nad dyna yw'r achos.
"Nid yw'n rhan o'r setliad datganoli ac rydyn ni i gyd yn gyfartal."
Bydd Ms Griffiths yn cynnal trafodaethau ddydd Iau gydag Ysgrifennydd Materion Gwledig y DU, Andrea Leadsom.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2017