Canolfan trawma difrifol: Y sefyllfa yng Nghymru

Mae BBC Cymru ar ddeall bod y ddarpariaeth ar gyfer cleifion sydd ag anafiadau sy'n peryglu bywyd ar fin cymryd cam mawr ymlaen yn y de.

Daw hyn ar ôl i uwch feddygon leisio'u pryderon bod y gwasanaeth iechyd yma ar ei hôl hi o gymharu â nifer o wledydd datblygedig o ran y gallu i drin cleifion sydd wedi dioddef trawma difrifol.

Ond beth yw canolfan trawma difrifol a beth yw'r sefyllfa yng Nghymru?