Canolfan trawma difrifol yng Nghymru gam yn nes

  • Cyhoeddwyd
YsbytyFfynhonnell y llun, GUSTOIMAGES/SCIENCE PHOTO LIBRARY

Mae BBC Cymru ar ddeall bod y ddarpariaeth ar gyfer cleifion sydd ag anafiadau sy'n peryglu bywyd ar fin cymryd cam mawr ymlaen yn y de.

Daw hyn ar ôl i uwch feddygon leisio'u pryderon bod y gwasanaeth iechyd yma ar ei hôl hi o gymharu â nifer o wledydd datblygedig o ran y gallu i drin cleifion sydd wedi dioddef trawma difrifol.

Yn Lloegr - mae'r cyfraddau goroesi ar gyfer cleifion o'r fath wedi gwella'n sylweddol ers sefydlu rhwydwaith o ysbytai sy'n arbenigo mewn gofal trawma difrifol.

Mae'r ffaith nad oes trefn debyg wedi ei sefydlu yng Nghymru wedi cael ei ddisgrifio gan feddygon blaenllaw fel "embaras" ac enghraifft o Gymru yn cael ei "gadael ar ei hôl".

Mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn cwyno bod y broses yma wedi bod yn "rhy araf".

24 awr y dydd

Ar ôl blynyddoedd o drafod fe fydd datblygiad mawr o ran sefydlu canolfan trawma difrifol yn Ne Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf.

Yn ganolog i hyn bydd penodi ysbyty yn ganolfan trawma difrifol.

Fe fydd tîm arbenigol, wedi ei staffio gan uwch-ddoctoriaid ar alw 24 awr y dydd er mwyn trin cleifion gydag anafiadau sy'n peryglu bywyd, neu y gallai newid bywyd y claf.

Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac Ysbyty Treforys yn Abertawe sydd yn cystadlu i fod yn ganolfan trawma difrifol de Cymru.

Dros y mis diwethaf, mae panel o arbenigwyr o'r tu allan i Wasanaeth Iechyd Cymru wedi bod yn asesu'r ddau gais.

Mae BBC Cymru ar ddeall bydd yr argymhelliad ynglŷn â pha safle ddylai cael ei ddewis yn cael ei gyhoeddi yn fuan.

Ond fe allai sawl wythnos fynd heibio cyn y cyhoeddiad, ac mae'n bosib na fydd penderfyniad terfynol am sawl mis arall.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan trawma difrifol yma ym Mryste yn un o'r 27 sydd yn bodoli ar draws Lloegr

Beth yw Canolfan Trawma Difrifol?

Ysbyty arbenigol gyda'r cyfrifoldeb am ofalu am y cleifion gyda'r anafiadau fwyaf difrifol yw canolfan trawma difrifol.

Mae'r canolbwynt ar arbenigedd o ran trin ystod eang o anafiadau sy'n golygu bod gofal arbenigol ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Os yw'n ddiogel, gan amlaf bydd cleifion ag anafiadau difrifol yn cael eu trosglwyddo yn uniongyrchol i'r ganolfan trawma difrifol yn hytrach na'r uned brys agosaf.

Mae achosion o drawma difrifol yn gymharol brin.

Ond mae cael mynediad i'r gofal priodol yn brydlon yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i'r tebygolrwydd y bydd claf yn goroesi ac o bosib ansawdd bywyd y claf yn dilyn yr anaf.

Cafodd canolfannau cyntaf o'r fath yn y Deyrnas Unedig eu sefydlu yn Llundain yn 2010 - ers hynny mae mwy na 25 wedi eu gosod ar draws Lloegr.

Mae yna gynlluniau i sefydlu 4 canolfan trawma difrifol yn yr Alban.

Dyw pob canolfan trawma difrifol ddim yn cynnig yr un cyfuniad o wasanaethau, ond ymhlith yr elfennau allweddol mae uned achosion brys mawr, adran niwro-lawdriniaeth, llawfeddygaeth blastig a llosgiadau, orthopaedeg arbenigol a llawfeddygaeth gyffredinol.

Ar hyn o bryd, nid oes gan yr Ysbyty Athrofaol Cymru nag Ysbyty Treforys y gallu i ddarparu'r holl wasanaethau yma.

Yr Achos o Blaid Ysbyty Athrofaol Cymru

  • Ysbyty Athrofaol Cymru yw ysbyty fwyaf y wlad.

  • Mae'r adran arbenigol niwro-lawdriniaeth y safle yn cael ei weld yn fantais allweddol - gyda'r ysbyty yn honni bod 70% o achosion o drawma difrifol yn cynnwys anaf i'r pen.

  • Mae unig ysbyty plant Cymru wedi ei leoli yno hefyd, a'i uned brys yw un o'r rhai sy'n perfformio orau yn y wlad.

  • Yn ôl Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro mae mwy o bobol yn byw o fewn 50 milltir i Ysbyty Athrofaol Cymru (1.6m) o gymharu ag Ysbyty Treforys (1.1m).

  • Caerdydd yw un o'r ardaloedd ble mae'r boblogaeth ar gynnydd fwyaf yn y Deyrnas Unedig.

Disgrifiad,

Canolfan trawma difrifol: Y sefyllfa yng Nghymru

Yr Achos o Blaid Ysbyty Treforys

  • Un o brif gryfderau Treforys yw mai dyma leoliad uned llosgiadau a phlastig Cymru sy'n darparu gofal arbenigol yn y maes i De Cymru, y Canolbarth a Gorllewin Lloegr.

  • Mae Ysbyty Treforys yn dadlau bod cyfran debyg o gleifion trawma difrifol angen llawdriniaeth blastig o gymharu gyda gofal niwro-lawfeddygol.

  • Mae yna le ar y safle i ehangu gyda 55 acr o dir ar gael drws nesa i'r ysbyty.

  • Ond prif atyniad yn ôl Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yw bod lleoliad Treforys yn well na lleoliad Ysbyty Athrofaol Cymru.

  • Yn ôl y bwrdd iechyd, mae cyfran uwch o Dde Cymru o fewn awr o'r ysbyty - ac mae astudiaethau'n dangos bod unigolion sy'n cael triniaeth o fewn yr hyn sy'n cael ei alw yn yr awr aur yn fwy tebygol o oroesi.

Pwy bynnag sy'n ennill mae'r ddau ysbyty yn dweud eu bod nhw'n barod i gydweithio â'r llall i ddatblygu gwasanaethau sydd ddim ar gael ar y safle arall.

Yn ogystal â hynny, mae'r ddau yn dweud y gallen nhw ddarparu gwasanaethau adferiad arbenigol sydd yn cael ei ystyried yn rhan fwy mwy pwysig o ofal trawma difrifol.

Pan ddaw'r penderfyniad, mae'n anorfod bydd pryderon lleol bod un ysbyty ar ei golled tra bod y llall yn elwa.

Ond mae arbenigwyr yn awgrymu fod cael canolfan yn ganolbwynt i rwydwaith ehangach yn bwysicach na phryderon penodol am y lleoliad.

Canolfannau Trawma Difrifol

Byddai angen i'r ganolfan trawma difrifol gael cefnogaeth gan ysbytai eraill, byddai'n cael eu penodi'n unedau trawma difrifol.

Byddai'r rhain a'r gallu i ddarparu gwasanaethau adfer a therapi datblygedig - ar ôl i gleifion cael triniaeth gychwynnol - yn nes at adref.

Ar ôl dioddef trawma difrifol, gall claf gymryd sawl mis, os nad blynyddoedd i wella.

Mae'n bosib bydd cleifion yn cael eu trosglwyddo i'r uned trawma difrifol er mwyn eu sefydlogi os mae yna risg y byddan nhw'n marw cyn cyrraedd y prif ganolfan.

Bydd trafodaeth ynglŷn â pha ysbytai yn Ne Cymru fydd yn cael eu penodi yn unedau trawma difrifol unwaith y daw penderfyniad ynglŷn â lleoliad y prif ganolfan.

Beth am Ogledd Cymru?

Mae'r gwasanaethau ar gyfer cleifion ag anafiadau difrifol yn y gogledd ac mewn rhannau o ganolbarth Cymru yn cael eu darparu trwy rwydwaith trawma Gogledd-orllewin Canolbarth Lloegr / Gogledd Cymru.

Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke sydd wedi ei benodi fel canolfan trawma difrifol yr ardal.

Gwersi o'r tu hwnt i Glawdd Offa

Ysbyty Southmead ym Mryste yw'r ganolfan trawma difrifol sy'n cwmpasu rhan ogleddol gorllewin Lloegr.

Ers sefydlu'r rhwydwaith trawma difrifol yn 2012 mae staff yn dweud bod cyfraddau goroesi wedi gwella yn sylweddol.

"Mae'r canlyniadau wedi bod yn eithaf syfrdanol" meddai Dr Ben Walton - ymgynghorydd gofal dwys, ac arweinydd clinigol trawma difrifol yn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gogledd Bryste.

"Pan gafodd y canolfannau cyntaf eu sefydlu yn Llundain, y gred oedd y byddai'n cymryd 5 mlynedd i weld y budd.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Ben Walton mae sefydlu canolfan trawma difrifol ym Mryste wedi gwneud gwahaniaeth mawr

"Ry'n ni wedi gweld gwelliant o fewn 18 mis."

"Mae hyn i gyd wedi bod yn gostus iawn, ond wrth edrych ar y canlyniadau - dyma un o'r buddsoddiadau mwyaf cost effeithiol erioed gan y llywodraeth."

Er bod Cymru wedi bod ar ei hôl hi o ran sefydlu rhwydweithiau trawma difrifol, mae Dr Walton yn credu gall Gwasanaeth Iechyd Cymru fanteisio drwy ddysgu gwersi o'r sefyllfa ar draws y ffin.

Mae'r rhain yn cynnwys darparu gwasanaeth adfer cynhwysfawr a'r ffaith bod cleifion oedrannus sydd wedi cwympo yn cyfrif am gyfran uwch o achosion trawma difrifol na'r disgwyl.

Ond mae Dr Walton yn dweud ei fod yn bwysig pwyllo cyn gwneud penderfyniad terfynol ynglŷn â lleoliad y ganolfan newydd.

"Os nad yw popeth yn ei le ar y dechrau - fe fydd yn cymryd blynyddoedd i adfer y sefyllfa."

"Mae lleoliad canolfan trawma difrifol yn bwysig, ond y peth pwysicaf yw'r gwasanaeth, y cynlluniau sydd mewn lle a sut mae'r gofal wedi ei gydlynu."

Beth Nesaf?

Ble bynnag bydd canolfan trawma difrifol De Cymru yn cael ei leoli, mae staff yn Nhreforys a Chaerdydd yn dweud bydd angen cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Byddai angen buddsoddiad mewn offer arbenigol, adnoddau a gwlâu ward a gofal dwys newydd.

Mae rheolwyr o'r ddau safle yn cydnabod hefyd bod risg y gallai pwysau ychwanegol fyddai'n deillio o ddod yn ganolfan trawma difrifol cael effaith ar wasanaethau eraill.

Unwaith mae'r panel o arbenigwyr yn datgelu eu hargymhelliad, fe fydd arweinwyr y Gwasanaeth Iechyd yn Ne Cymru yn cyfarfod i drafod y casgliadau.

Yn y pendraw, fe fydd cynnig yn cael ei gyhoeddi ac yn cael ei ystyried fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus ac fe fydd Cynghorau Iechyd Lleol â mewnbwn yn y broses hefyd.

Ond, os nad oes consensws - fe allai'r penderfyniad gael ei gyfeirio at Lywodraeth Cymru.