Clive Rowlands: 'Rhaid i'r Llewod ennill y prawf cyntaf'

Mae'n rhaid i'r Llewod ennill y prawf cyntaf yn erbyn y Crysau Duon, yn ôl cyn-reolwr y tîm.

Dywedodd Clive Rowlands, cyn-fewnwr Cymru, y byddai buddugoliaeth yn y gêm agoriadol yn rhoi pwysau ar hyfforddwyr a chwaraewyr Seland Newydd.

Mae pedwar o Gymry ymhlith y 15 fydd yn cychwyn yr ornest yn Auckland.

Gallwch ddilyn y gêm ar lif byw arbennig Cymru Fyw o 08:00 fore Sadwrn.