Pedwar Cymro'n dechrau prawf cyntaf Y Llewod

  • Cyhoeddwyd
LlewodFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd pedwar Cymro'n dechrau prawf cyntaf Y Llewod yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn, ond does dim lle i'r capten Sam Warburton.

Bydd Alun Wyn Jones, Taulupe Faletau, Jonathan Davies a Liam Williams yn dechrau'r gêm ym Mharc Eden yn Auckland.

Er nad yw wedi'i enwi yn y 15 fydd yn dechrau, bydd Warburton ar y fainc, gyda thri Chymro arall.

Hefyd ymysg yr eilyddion mae Ken Owens, Rhys Webb a Leigh Halfpenny.

Disgrifiad,

Jonathan Davies yn barod ar gyfer y prawf cyntaf

Blaenasgellwr Iwerddon, Peter O'Mahony fydd capten Y Llewod.

Roedd pryder am ffitrwydd y maswr Owen Farrell yn dilyn anaf, ond mae'n holliach i ddechrau ddydd Sadwrn.

Bydd cynnwys Williams yn sioc i nifer, ond llwyddodd i greu argraff yn y fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y Chiefs ddydd Mawrth.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Peter O'Mahony fydd yn arwain Y Llewod yn y prawf cyntaf

Mae capten Cymru, Jones wedi'i ddewis dros Maro Itoje yn yr ail reng, ond mae Jamie George wedi ennill yr ornest gydag Owens i ddechrau fel bachwr.

Yn y cyfamser, cafodd Seland Newydd hwb ddydd Mercher gyda'r newyddion y bydd yr wythwr Kieran Read ar gael i arwain y Crysau Duon ddydd Sadwrn.

Dyma fydd gêm gyntaf y capten ers cael ei anafu ym mis Ebrill.

Gallwch ddilyn y gêm ar lif byw arbennig Cymru Fyw o 08:00 fore Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Kieran Read yn dychwelyd i arwain y Crysau Duon ddydd Sadwrn

Tîm Y Llewod

Liam Williams; Anthony Watson, Jonathan Davies, Ben Te'o, Elliot Daly; Owen Farrell, Conor Murray; Mako Vunipola, Jamie George, Tadhg Furlong, Alun Wyn Jones, George Kruis, Peter O'Mahony (capt), Sean O'Brien, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Ken Owens, Jack McGrath, Kyle Sinckler, Maro Itoje, Sam Warburton, Rhys Webb, Jonathan Sexton, Leigh Halfpenny.

Tîm Seland Newydd

Ben Smith; Israel Dagg, Ryan Crotty, Sonny Bill Williams, Rieko Ioane; Beauden Barrett, Aaron Smith; Joe Moody, Codie Taylor, Owen Franks, Brodie Retallick, Samuel Whitelock, Jerome Kaino, Sam Cane, Kieran Read (capt).

Eilyddion: Nathan Harris, Wyatt Crockett, Charlie Faumuina, Scott Barrett, Ardie Savea, TJ Perenara, Aaron Cruden/Lima Sopoaga, Anton Lienert-Brown.