Beth yw cynghanedd?

Mae'n rhaid i feirdd mwyaf medrus Cymru feistroli'r grefft o gynghaneddu cyn rhoi cynnig ar gystadleuaeth Cadair yr Eisteddfod.

Ond, beth yn union yw cynghanedd?

Mae Gwynfor Dafydd yn dipyn o gynganeddwr ac wedi ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd am y ddwy flynedd ddiwethaf. Yma, mae'n llwyddo i egluro'r dechneg ddyrys yma mewn cwta munud a hanner.

Yn gyfuniad cymhleth o gyflythrennu ac odlau mewnol sy'n unigryw i'r Gymraeg, ma'en grefft sy'n gallu cymryd blynyddoedd i'w meistroli.

Mae beirdd Cymru yn cystadlu am Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol am yr awdl orau, ble mae'n rhaid i bob llinell fod mewn cynghanedd gyflawn. Tipyn o her.

Gallwn ni weld egin cynghanedd yng ngwaith beirdd yr Hen Ogledd, fel Taliesin neu Aneirin, mor bell yn ôl â'r 6ed ganrif.