Gwynfor Dafydd yn ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Gwynfor Dafydd o Donyrefail yw enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái eleni, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.
Mae'r gadair yn cael ei chyflwyno i'r prifardd am gyfansoddi cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 llinell, a'r testun eleni oedd Yr Arwr neu Yr Arwres.
Mae Gwynfor yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf yng Ngholeg yr Iesu, Caergrawnt, yn astudio Sbaeneg ac Almaeneg.
Yn wreiddiol o Donyrefail, sydd ym mro'r Eisteddfod eleni, roedd yn ddisgybl mewn dwy o'r ysgolion cyfagos, sef Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail ac Ysgol Llanhari.
Beirniaid y gystadleuaeth oedd Aneirin Karadog a Rhys Iorwerth.
'Profiad hyfryd'
Wedi'r seremoni, dywedodd Gwynfor ei fod yn falch ennill y gadair yn ei ardal leol: "O'dd e'n brofiad hyfryd cael bod yma yn fy ardal leol hefyd.
"Mae'n anodd credu, roeddwn i yma rhyw flwyddyn a hanner yn ôl yn ysgrifennu'r cywydd croeso gyda Mererid Hopwood, a hi oedd yn cyrchu heddi.
"Mae'n braf cael esgus i ddod yn ôl hefyd - roedd gyda fi arholiad ddoe, mae gyda fi arholiad fory felly bydda i'n mynd syth nôl i'r brifysgol nawr.
"Ac roedd criw Llanharri i mewn hefyd - fy nghyn ysgol i. Maen nhw wedi gwneud yn wych, maen nhw wedi cael 23 o gystadlaethau trwyddo, sydd erioed wedi digwydd o'r blaen felly dwi'n falch iawn o gael eu cynrhychioli nhw yn y steddfod."
Wrth gyfeirio at ysbrydoliaeth ei gerdd fuddugol, dywedodd Gwynfor fod I, Daniel Blake "yn ffilm ysgytwol ac yn ffilm bwysig â themau pwysig. Ro'n i am chwarae fy rhan i yng nghenhadu neges y ffilm".
'Ben ac ysgwydd uwchben pawb arall'
Wrth draddodi dywedodd Mr Karadog: "O'r darlleniad cyntaf, mae gwaith yr enillydd yn hoelio ein sylw drwy ei allu i ddelweddu a disgrifio'n ddeheuig yn y wers rydd.
"Yn dra annisgwyl, cerdd ecffrastig sydd yma, un wedi'i seilio ar y ffilm I, Daniel Blake.
"Ar y cychwyn, roedd hyn yn peri mymryn o bryder i ni; mae'r gerdd yn pwyso'n drwm ar ddigwyddiadau a chymeriadau'r ffilm, ac yn benthyg ei thema drwy drafod dioddefaint haenau isaf cymdeithas.
"Ond drwy ei allu i'n llorio â'i linellau ac i gynnal y safon o'r dechrau i'r diwedd, rydym yn argyhoeddedig fod hon yn gerdd sy'n sefyll ar ei thraed ei hun.
"O ran aeddfedrwydd y dweud, roedd gwaith yr enillydd ben ac ysgwydd uwchben pawb arall yn y gystadleuaeth."
Mae Gwynfor yn gyfarwydd iawn gyda llwyfan yr Urdd, ac wedi cystadlu'n unigol a gydag Adran Bro Taf - yn clocsio, dawnsio gwerin, llefaru a chanu'r Delyn - ers pan oedd yn ifanc iawn.
Ef hefyd luniodd y Cywydd Croeso ar gyfer yr Eisteddfod eleni.
Dywedodd Gwynfor: "Coeden ar gampws Pencoed sbardunodd y cywydd ac mae'n wefr gallu dod yn ôl i'r un lleoliad i dderbyn cadair yr Eisteddfod."
Meistr y Ddefod oedd Mererid Hopwood, yr un a gyflwynodd y gynghanedd i Gwynfor.
'Diolch pennaf i fy athrawes'
Dywedodd Gwynfor: "Dechreuais i ysgrifennu o ddifrif yn dilyn cael fy ysbrydoli mewn sesiwn yn yr ysgol gyda Mererid Hopwood ac rwyf hefyd yn ddiolchgar i Cyril Jones a Huw Dylan am fy rhoi ar ben ffordd yn y dyddiau cynnar ac i dîm talwrn Tir Iarll am y cyfle i ymuno â nhw.
"Ond mae fy niolch pennaf i Catrin Rowlands, fy athrawes Gymraeg yn Ysgol Llanhari, am ei chefnogaeth a'i chyngor anffaeledig."
Carwyn Eckley o Gylch Dyffryn Nantlle ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, gyda Matthew Tucker o Gylch Llanelli yn drydydd.