'Angen perswadio UEFA bod Caerdydd yn addas'

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cael cyfle arall i wneud cynnig i gynnal gemau pencampwriaeth Euro 2020.

Bydd y gystadleuaeth ymhen tair blynedd yn cael ei chynnal mewn sawl stadiwm ar draws Ewrop yn hytrach na mewn un wlad.

Roedd y gymdeithas wedi gwneud cais i fod yn un o'r dinasoedd gwreiddiol i gynnal gemau, ond ni chafodd Stadiwm Principality ei dewis ar y pryd.

Pennaeth cyfathrebu'r gymdeithas bêl-droed, Ian Gwyn Hughes fu'n egluro'r sefyllfa ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.