Cyfle arall i gynnal gemau Euro 2020 yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cael cyfle arall i wneud cynnig i gynnal gemau pencampwriaeth Euro 2020.
Bydd y gystadleuaeth ymhen tair blynedd yn cael ei chynnal mewn sawl stadiwm ar draws Ewrop yn hytrach na mewn un wlad, fel Ffrainc ar gyfer Euro 2016 er enghraifft.
Roedd y gymdeithas wedi gwneud cais i fod yn un o'r dinasoedd gwreiddiol i gynnal gemau, ond ni chafodd Stadiwm Principality ei dewis ar y pryd.
Ond yn dilyn trafferthion yng Ngwlad Belg, mae'n bosib na fydd stadiwm newydd ym Mrwsel yn barod mewn pryd ar gyfer gystadleuaeth, er eu bod wedi cael eu dewis fel un o'r dinasoedd i gynnal gemau.
Dydi UEFA ddim wedi gwneud penderfyniad terfynol am y stadiwm ym Mrwsel, ond rhag ofn na fydd yr adnoddau'n barod mae Caerdydd, Llundain a Stockholm wedi cael cyfle i gynnig eto i gynnal y gemau hynny.
Fe gafodd rowndiau terfynol Cynghrair y Pencampwyr i ddynion a merched eu cynnal yng Nghaerdydd eleni, a hynny'n llwyddiannus dros ben.
Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford: "Yn naturiol mae CBDC wrth ein bodd o gael y cyfle yma.
"Fe fyddwn ni'n gweithio'n galed unwaith eto i gyflwyno cais cryf i gynnal rhai o'r gemau yng Nghaerdydd, ac fe fyddwn ni'n defnyddio'r profiad o gynnal Cynghrair y Pencampwyr yma i ddangos y bydd cynnal y gemau yma yn llwyddiant.
"Fe fyddai'n wych i bêl-droed Cymru nid yn unig i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2020 ond hefyd i gynnal rhai o'r gemau allweddol yma."
Roedd Brwsel i fod i gynnal gemau yn rownd y grwpiau ac yn rownd yr 16 olaf yn ystod Euro 2020.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2017