Atgofion o noson gyntaf S4C

Roedd yna ddisgwyliadau anferth ar nos Lun Tachwedd 1, 1982 wrth i S4C, sianel deledu newydd sbon ddarlledu am y tro cyntaf

Nawr, 35 mlynedd yn ddiweddarach, dyma gyfle i chi glywed atgofion tri oedd yna ar y noson, dwy yn cyflwyno, ac un yn gweithio tu ôl y llenni.

Darganfyddwch pam wnaeth S4C sefydlu yng Nghlôs Soffia? Pam roedd Rowena bron troi lan yn edrych fel Owain Glyndŵr? A darganfyddwch pwy oedd y darlledwr gorau yng Nghymru ar y noson.

[Diolch i S4C am glipiau'r noson agoriadol]