Cyflwyno'r sianel newydd
- Cyhoeddwyd
Roedd y disgwyliadau yn enfawr ar nos Lun 1 Tachwedd 1982 wrth i S4C ddarlledu am y tro cyntaf erioed.
Roedd hi'n noson fawr hefyd i ddwy ddarlledwraig ifanc fyddai'n rhan allweddol o ddyddiau cynnar y sianel.
Siân Thomas a Rowena Griffin, ynghyd â'r diweddar Robin Jones, oedd yn cyflwyno'r rhaglenni ar y gwasanaeth newydd sbon
Bu'r ddwy yn rhannu eu hatgofion gyda Cymru Fyw:
[Diolch i S4C am glipiau a lluniau'r noson agoriadol]
Siân: Dwi'n cofio gwrando ar Helo Bobol ar Radio Cymru y bore dydd Llun hwnnw 'da Hywel Gwynfryn a phawb yn sôn am S4C hyn ac S4C llall a dwi'n cofio meddwl..."Oh, os wna'i fess o hwn heno, fyddai'n mynd lawr mewn hanes fel yr un a wnaeth mess ar noson gyntaf S4C!"
Rowena: Mae pawb yn sôn am y noson gyntaf, ond dechreuodd y gwaith paratoi llawer cyn hynny. Wnes i ddechrau gweithio i S4C ym mis Gorffennaf a wnaethon ni ddim stopio.
Siân: Roedden ni'n cael ein defnyddio ar gyfer hysbysebu a hyrwyddo'r ffaith fod y sianel yn dod, felly o'n ni'n cael mynd i Lundain i gwrdd â'r cwmni PR, cael makeover gan gylchgrawn Woman a chwrdd â'r cwmnïoedd annibynnol fyddai'n gwneud y rhaglenni i gyd, felly roedd e'n haf prysur iawn.
Rowena: Roedd 'da ni gwmni marchnata oedd yn edrych ar ôl ein delwedd ni. Yr un cwmni oedd yn gwneud y gyfres Spitting Image fel mae'n digwydd, a phob tro bydden ni'n eistedd yn eu swyddfa, bydden ni'n trio darganfod beth oedd yn digwydd yn y gyfres yr wythnos honno. Ta waeth, o'n ni'n cael mynd i siopa am ddillad gyda chynllunydd oedd yn gyfrifol am holl ddelwedd y sianel, ac felly, roedd rhaid i'n delwedd ni weddu'r holl beth.
Siân: Roeddet ti'n iawn, achos o' ti'n edrych yn ok yn y shoulder pads ac yn y blaen, ond fi... ro'n ni'n got i gyd!
Rowena: Dwi'n cofio bod yn rhaid i ni fynd i Eisteddfod Abertawe'r flwyddyn honno, ac ro'n nhw wedi penderfynu bod ni'n mynd i wisgo mewn gwyn i gyd, gyda fflachiadau coch a gwyrdd. Ond, oherwydd y tywydd dwi ddim yn siŵr pa mor ymarferol oedd hynny!
Siân: Ond weithiau, roedd syniadau steil yn mynd braidd yn rhy bell. Dwi'n cofio ti bron yn cael rhywbeth rhyw dro. Wel! Ddes di allan yn edrych fel Owain Glyndŵr, mewn rhyw fath o chainmail. Na! Na!
Rowena: Dwi ddim yn cofio hynna! Ond dwi'n cofio cael lot o ddillad neis... mae lot o nhw dal gyda fi!
Rowena:Roedd Robin [Jones] yn cymryd lot o'r baich oddi ar ein hysgwyddau, gan fod e mor brofiadol, a ni'n dwy'n newydd.
Siân: Doedd neb yn 'nabod ni. Roedd pawb yn 'nabod Robin oherwydd ei waith gyda'r BBC, felly roedd hyn yn ein gwarchod ni rhywfaint, achos mi roedd yna lot o sylw, a doedd e ddim i gyd yn sylw neis! Ar y noson, cafodd yr awr gyntaf ei recordio rhag ofn i bethau fynd o le. Rwy'n cofio, fi roddodd y colur ar wyneb Owen Edwards cyn iddo groesawu'r sianel. Doedd 'da ni neb yn gwneud colur.
Fi'n cofio fe'n sefyll yn y cyntedd â darn hir o sgript ac mi aeth ati i adrodd y cyfan, heb autocue yn berffaith... y darlledwr gorau welodd Cymru erioed!
Rowena: Ar ôl yr awr gyntaf roedd y cyfan yn fyw. Roeddwn ni wedi ymarfer wrth reswm, ond roedd hi'n sefyllfa fyw a dwi'n cofio'r nyrfs hyd heddiw, achos roedd e'n big deal achos o' ti'n gwybod fod gymaint o bobl yn gwylio.
Siân: Roedd pobl dros Gymru wedi dod at ei gilydd er mwyn gwylio hyn gyda'i gilydd... roedd yn rhywbeth hanesyddol.
Rowena: Wrth edrych nôl, ti'n sylweddoli ein bod ni wedi bod yn rhan o hanes, ac yn gwerthfawrogi hynny fwy rŵan wrth edrych yn ôl, yn hytrach na phan yn ifanc ac efallai'n ffôl.
Siân: Beth bynnag sydd yn digwydd, dim ond un noson gyntaf sy' 'na. Roedden ni'n dwy yna, felly hwnna yw profiad gorau dy fywyd di. Mae e jest yn rhywbeth anhygoel!