Pwerau dŵr: 'Cywiro mater sy'n ddyledus ers tro'

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi cyhoeddi y bydd gan Lywodraeth Cymru bwerau newydd ym maes dŵr.

Dywedodd Alun Cairns fod hyn yn cydnabod cam hanesyddol a wnaed â Chymru pan gafodd pentref Capel Celyn ei foddi er mwyn creu cronfa ddŵr i ddinas Lerpwl.

Bydd y newidiadau yn diddymu pŵer hanesyddol gweinidogion San Steffan i ymyrryd yng nghyfreithiau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru am ddŵr.

Fe fydd y drefn newydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2018.

Yn 2005 fe wnaeth Cyngor Lerpwl ymddiheuro'n ffurfiol am y digwyddiad.