Cwblhau cytundeb i 'gywiro cam Tryweryn'
- Cyhoeddwyd
Bydd pwerau newydd Llywodraeth Cymru dros ddŵr yn "cywiro cam" Tryweryn, yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns.
Mae disgwyl i brotocol trawsffiniol gael ei gytuno ar y cyd rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ddydd Iau.
Byddai'r cytundeb yn diddymu pŵer hanesyddol gweinidogion San Steffan i ymyrryd yng nghyfreithiau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru am ddŵr.
Bydd yn golygu bod llywodraethau Cymru a San Steffan yn rhannu pwerau'n ymwneud â dŵr yng Nghymru.
'Mater anodd'
Mae'r protocol, sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2018, yn disodli hawl Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ymyrryd yn y maes.
Bydd y ddwy lywodraeth yn cyhoeddi datganiadau ysgrifenedig gweinidogol fore Iau yn San Steffan ac yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Cafodd argae Tryweryn ei agor ym mis Hydref 1965, wedi i bentref Capel Celyn a rhan o Gwm Tryweryn gael eu boddi i gyflenwi dŵr i Lerpwl, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn i'r cynllun.
Cafodd 70 o bobl a phlant eu gorfodi i adael eu cartrefi, a bu'n rhaid ffarwelio gyda'r ysgol, y capel a'r ffermydd.
Mae'r dadleuon am yr hyn a ddigwyddodd i Gwm Celyn yn cael eu gweld gan lawer heddiw fel y gwreichion a daniodd yr ymgyrchoedd iaith yn ystod y 1960au a'r 70au, ac yn ganolbwynt i genedlaetholdeb ar y pryd ac ers hynny.
Cafodd y newidiadau eu cyhoeddi yn wreiddiol fis Tachwedd y llynedd, a'u cynnwys yn Neddf Cymru ddaeth i rym ym mis Chwefror.
Bryd hynny fe ddywedodd Mr Cairns bod y newidiadau'n "cywiro cam" dros hanner canrif wedi achos boddi Capel Celyn er mwyn cyflenwi dŵr i Lerpwl.
Ychwanegodd hefyd bod "pob ysgrifennydd gwladol" ers helynt Tryweryn "wedi osgoi mynd i'r afael â'r mater anodd yma".
Er hynny, mae yna gonsensws y byddai deddfau cynlluniau heddiw yn atal sefyllfa debyg rhag codi yn y dyfodol.
Ychwanegodd Mr Cairns ddydd Iau: "Mae'r protocol hwn yn brawf o ba mor bell rydyn ni wedi dod ers y digwyddiadau 52 mlynedd yn ôl, a arweiniodd at foddi Cwm Tryweryn.
"Mae cytundeb heddiw yn rhoi trefniadau trawsffiniol ar waith o ran dŵr ar delerau addas ar gyfer y 21ain ganrif ac yn cadarnhau beth y gellir ei gyflawni pan fydd dwy lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd er ffyniant Cymru yn y dyfodol.
"Mae'r rhain yn bwerau sy'n effeithio ar fywydau pawb sy'n byw yng Nghymru ac yn gam mawr at setliad datganoli cliriach, cryfach a thecach y mae Llywodraeth y DU yn ei roi ar waith ar gyfer pobl Cymru."
Yn siarad cyn gosod y protocol, dywedodd Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths: "Mae cyflwyno'r protocol hwn yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd yn y setliad datganoli a allai, yn ymarferol, olygu bod gweinidogion Llywodraeth y DU yn ymyrryd mewn materion sy'n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.
"Dwi'n falch o'r ffordd adeiladol a phositif y mae'r ddwy weinyddiaeth wedi mynd i'r afael â drafftio a gweithredu cytundeb sy'n golygu bod defnyddwyr dŵr ar y ddwy ochr i'r ffin yn cael eu diogelu, sy'n bwysig iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2015