'Gobeithio y bydd Yr Egin yn 60% llawn'

Mae un o uwch-swyddogion Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gobeithio y bydd hyd at 60% o adeilad Yr Egin wedi ei lenwi pan fydd drysau'r ganolfan newydd yn agor ym mis Medi.

Erbyn hyn mae ffenestri yn cael eu gosod yn yr adeilad ar gampws y brifysgol yng Nghaerfyrddin, ac fe fydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau erbyn yr haf.

Y brifysgol sydd tu cefn i'r cynllun i greu canolfan y diwydiannau creadigol yn y gorllewin.

Mae £6m o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar adeilad fydd yn cynnwys pencadlys newydd S4C, ond mae'r cynllun wedi bod yn un dadleuol ar adegau.

Dywedodd Dirprwy Is-ganghellor Cysylltiol, Gwilym Dyfri Jones, wrth ohebydd BBC Cymru Aled Scourfield nad yw'r brifysgol ar hyn o bryd "mewn sefyllfa i rannu gwybodaeth am ei bod yn parhau mewn trafodaethau manwl a chyfreithiol" gyda nifer o gwmnïau a sefydliadau."