Cwestiynu 'tryloywder' S4C a phrifysgol dros Yr Egin

  • Cyhoeddwyd
Yr EginFfynhonnell y llun, PCDDS

Mae cwestiynau ynglŷn â "thryloywder" a "niwl" o amgylch y berthynas rhwng S4C a'r brifysgol fydd yn bencadlys newydd i'r sianel, yn ôl aelod seneddol.

Mae S4C yn bwriadu symud i adeilad Yr Egin ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant y flwyddyn nesaf, gan symud 55 o aelodau staff o Gaerdydd i Gaerfyrddin.

Maen nhw wedi cytuno i dalu £3m mewn rhent i'r brifysgol ymlaen llaw, sy'n cyfateb i £150,000 y flwyddyn. Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn talu rhent o £26,000 y flwyddyn i'r brifysgol am adeilad ger Yr Egin.

Yn ôl S4C a'r brifysgol nid oes modd gwneud cymhariaeth rhwng sefyllfa'r darlledwr a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru, ddaeth yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn talu £26,000 mewn rhent yn flynyddol i'r brifysgol.

Mae ganddyn nhw 20 aelod o staff mewn adeilad hŷn ger datblygiad Yr Egin.

'Amheus'

Ffynhonnell y llun, PCDDS

Dywedodd AS Gogledd Caerdydd, Craig Williams wrth raglen Newyddion 9: "Byddaf yn siarad â chadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, yr wyf yn meddwl y byddwn yn eu galw nhw [Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant] i mewn i siarad am drefniadau y datblygiad cyfan a'r gwahaniaeth rhwng y swyddfeydd.

"Mae'n gwestiwn o dryloywder, mae tipyn o niwl o gwmpas y datblygiad hwn.

"Yr ydym wedi ei weld yn y cais i Lywodraeth Cymru am grant, ac eto ar yr un pryd sicrwydd i S4C nad oes angen iddynt [gael] grant i allu symud ymlaen. Rydym wedi ei weld gydag un taliad rhent ymlaen llaw o £3m.

"Byddai'r person mwyaf gwrthrychol yn edrych ar hyn yn amheus.

"Hefyd mae yna wahaniaeth rhwng y rhent ar gyfer y Coleg Cymraeg drws nesaf, sydd rhaid cyfaddef hanner maint [S4C] ond yn sicr, nid hanner y taliad."

Dywedodd llefarydd ar ran S4C na ellir gwneud cymhariaeth â sefyllfa'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

"Mae'r swm mae'r Coleg yn ei dalu ar gyfer swyddfeydd sy'n 12 mlynedd oed ac am y cyfnod presennol," meddai.

"Mae'r hyn mae S4C yn bwriadu ei dalu ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf ac ar gyfer swyddfeydd o safon uchel, fydd yn rhoi sicrwydd, di-risg i S4C."

Ychwanegodd bod gan y darlledwr gynllun busnes am 20 mlynedd sy'n "gost-niwtral", a bod modd ymestyn i les 25 mlynedd heb gost ychwanegol.

"Ni fydd unrhyw adolygiadau rent ar draws y cyfnod o dan y trefniant yma. Roedd y prisiau a gytunwyd yn unol â barn y Prisiwr Dosbarth am werthoedd renti yng Nghaerfyrddin."

Penderfyniad llywodraeth

Yn ôl llefarydd ar ran Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: "Ni ellir cymharu sefyllfa tenantiaid y Llwyfan ac S4C - mae'r ddau adeilad yn wahanol iawn o ran natur ac oedran.

"Mae'r Brifysgol yn cadarnhau fod y rhentiau fesul troedfedd sgwâr wedi'u meincnodi yn erbyn costau rhent yn ardal Caerfyrddin."

Bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu'n ddiweddarach yn y mis a fydda' nhw'n cyfrannu hyd at £6m i'r cynllun.