'Rwsia Putin': Carwyn Jones ac Adam Price yn gwrthdaro

Bu gwrthdaro tanllyd ar lawr y Senedd wrth i'r Prif Weinidog Carwyn Jones wynebu cwestiynau am gynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ad-drefnu gwasanaethau yn y gorllewin.

Fe wnaeth Mr Jones gyhuddo Adam Price, AC Plaid Cymru Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, o ymffrostio gwleidyddol ar y pwnc.

Roedd Mr Price wedi gofyn a fyddai Mr Jones yn ceryddu Eluned Morgan, un o weinidogion Llafur, am drydar ei gwrthwynebiad i gau unrhyw ysbytai.

Dywedodd Mr Jones y dylai Mr Price "wrando a dysgu" gan ddweud bod y bwrdd iechyd wedi ceisio trefnu cyfarfod â'r AC yn Rhagfyr ac Ionawr.

Yn ei dro fe wnaeth Mr Price gyhuddo Mr Jones o ymddwyn fel "Rwsia Putin", drwy restru adegau i'r bwrdd iechyd geisio cysylltu ag ef.