Cyhuddo Carwyn Jones o 'ymddwyn fel Rwsia Putin'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cael ei gyhuddo o ymddwyn fel "Rwsia Putin" ar ôl iddo ddatgelu gwybodaeth fod penaethiaid bwrdd iechyd wedi ceisio trefnu cyfarfod gyda AC o Blaid Cymru.
Yn y Senedd ddydd Mawrth fe wnaeth Adam Price holi am gynlluniau gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda i ad-drefnu gwasanaethau ysbytai yng ngorllewin Cymru.
Ond cafodd Mr Jones ei gyhuddo o dorri rheolau amddiffyn data, drwy gyhoeddi rhestr o ddyddiadau roedd y bwrdd iechyd wedi ceisio cysylltu â Mr Price.
Roedd yn rhaid i'r Llywydd, Elin Jones alw am heddwch sawl gwaith yn y Senedd, wrth i'r pleidiau ddadlau'r mater brynhawn Mawrth.
Yn ystod sesiwn Holi'r Prif Weinidog fe ofynnodd Mr Price os oedd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan - AC Llafur Canolbarth a Gorllewin Cymru - am wynebu cosb am ddweud ar y cyfryngau cymdeithasol ei bod yn gwrthwynebu unrhyw gynlluniau i gau ysbytai.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Mr Price, sy'n cynrychioli Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, y dylai'r mater gael ei benderfynu drwy bleidlais seneddol.
Mewn ymateb dywedodd Mr Jones y dylai Mr Price "wrando a dysgu", cyn rhestru nifer o ymdrechion gafodd eu gwneud yn Rhagfyr ac Ionawr gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda i gysylltu â Mr Price.
"Mae e [Adam Price] yn dda iawn am sefyll yn y lle hwn ar gefn ei geffyl, a hynny heb wneud unrhyw waith ar ran ei etholwyr," meddai'r prif weinidog.
Wrth i'r Llywydd alw am ddistawrwydd, cafodd Adam Price ei glywed yn dweud: "Beth yw hyn? Rwsia Putin?"
"Mae hyn yn warthus... rydych yn defnyddio gwybodaeth gyfrinachol yn erbyn aelod. Cywilydd arnoch," ychwanegodd Mr Price.
Torri'r ddeddf amddiffyn data
Fe wnaeth AC arall Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth awgrymu bod Carwyn Jones wedi torri'r ddeddf amddiffyn data.
Wrth ymateb, dywedodd Mr Jones fod datganiad "wedi ei anfon gan aelod, a bod datganiad arall yn nodi y byddant yn cadw golwg barcud ar y cynnig oedd ger bron, a'u bod yn bwriadu cynnal cyfarfod gyda'r bwrdd iechyd ar y cyfle cyntaf posib".
Yn ddiweddarach, fe gyhoeddodd Mr Price neges ar ei gyfrif Twitter yn dweud: "Felly mae @fmwales [Carwyn Jones] sydd wedi ei gyhuddo o fwlian ac aflonyddu wedi dewis rhyddhau gwybodaeth gyfrinachol amdana i gan fwrdd iechyd cyhoeddus er mwyn ymosod arna i.
"Mae hyn yn ymddygiad digynsail ac yn weithred droseddol yn erbyn y ddeddf amddiffyn data."
Mewn neges bellach dywedodd y bydd yn cyfarfod â phrif weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda i "ofyn am atebion" ynghylch sut y cafodd y prif weinidog afael ar wybodaeth "er mwyn ymosod ar wleidydd o'r wrthblaid".
Dywedodd llefarydd ar ran y prif weinidog: "Chafodd dim gwybodaeth sensitif neu warchodedig ei rhannu na'i ollwng, a doedd dim cais amdani chwaith.
"Mewn ymateb i feirniadaeth gyhoeddus gan Mr Price mae'r bwrdd iechyd lleol, fel y dylen nhw, wedi rhoi gwybod nad yw wedi ymateb i'r un o'u gwahoddiadau i drafod y mater.
"Mae hyn yn rhagrith llwyr, ac mae dicter Mr Price yn deillio'n llwyr o'r ffaith fod y rhagrith yma wedi cael ei amlygu."
Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Tomos Livingstone:
Doedd dim byd anarferol iawn yn y cwestiwn wnaeth Adam Price ofyn i'r Prif Weinidog, ond go brin oedd neb wedi gweld golygfeydd tebyg i'r rhai wnaeth ddilyn ateb Carwyn Jones.
Y Llywydd, Elin Jones, a fydd yn cael y gair olaf yfory ynglŷn â pha mor briodol oedd hi i Carwyn Jones ddatgelu manylion ymdrechion Bwrdd Iechyd Hywel Dda i gysylltu â Mr Price, un o'r ACau lleol.
A'r gweiddi a'r cecru rhwng y ddau ddyn fydd yn hawlio'r penawdau heddiw; does dim llawer o Gymraeg rhwng y ddau a dweud y gwir, gyda'r naill wedi bod yn poenydio'r llall ers tro ar bynciau o Gyffordd Cymru at honiadau o fwlio o fewn y llywodraeth.
Ond y cyd-destun sy'n bwysig. Mae'r Prif Weinidog dan bwysau enbyd ers marwolaeth Carl Sargeant y llynedd; y tawelwch tu ôl iddo ar y meinciau Llafur wrth iddo geisio dangos tipyn o angerdd heddiw efallai oedd gwir arwyddocâd y sesiwn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2018