Cartwnydd yn lledu caredigrwydd ar Instagram
Mae gwaith cartwnydd ifanc o Gaerdydd yn denu sylw o bedwar ban byd ac mae bellach yn helpu lledu negeseuon positif ar-lein.
18 mis yn unig sydd ers i Harry Hambley, 18 oed ac o Landaf, gyhoeddi ei gartŵn cyntaf ar ei gyfri Instagram @ketnipz.
Erbyn hyn mae ganddo dros 335,000 o ddilynwyr, ac mae Instagram yn defnyddio ei waith mewn sticeri "caredigrwydd" y gall defnyddwyr eu cynnwys wrth gyhoeddi eu straeon eu hunain.
Mae rhai o'i ddilynwyr wedi cael tatŵs ar sail ei ddelweddau ac mae'r ymateb i'w waith yn gyffredinol, medd Harry, wedi bod yn "wallgof".