Y cartwnydd ifanc o Gaerdydd a'i sticeri caredig
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith cartwnydd ifanc o Gaerdydd yn denu sylw o bedwar ban byd ac mae bellach yn helpu lledu negeseuon positif ar-lein.
18 mis yn unig sydd ers i Harry Hambley, 18 ac o Landaf gyhoeddi ei gartŵn cyntaf ar ei gyfri Instagram @ketnipz.
Erbyn hyn mae ganddo dros 335,000 o ddilynwyr, ac mae Instagram yn defnyddio ei waith mewn sticeri "caredigrwydd" y gall defnyddwyr eu cynnwys wrth gyhoeddi eu straeon eu hunain.
Dywedodd Harry, sy'n disgrifio'i hun fel person" mewnblyg", bod darlunio'n ei helpu i fynegi ei hun, a bod yr ymateb i'w waith "yn wallgof".
Mae ganddo lawer o ddilynwyr yn yr Unol Daleithiau a Singapore, ac mae rhai wedi cael tatŵs ar sail ei ddelweddau.
Bodau tebyg i ffeuen yw cymeriadau'r cartwnau ac mae 'na frand dillad ketnips erbyn hyn yn ogystal â chloriau ffôn a chardiau cyfarch.
Mae hiwmor yn elfen bwysig i'r gwaith, a dyna wnaeth ysgogi Instagram i wneud cysylltiad.
Y cais oedd i greu "sticeri caredig" sydd ar gael wedyn i ddefnyddwyr Instagram eu hychwanegu at eu lluniau a'u fideos eu hunain.
Dywedodd Harry, cyn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, mai'r nod yw lledu negeseuon positif "heb pregethu".
"Rwy'n credu bod lot of negativity online, yn arbennig yn ddiweddar. Mae'n rhy hawdd i fod yn gas ar-lein."
"Rwy'n treial bod yn fwy approachable.... rhoi teimlad da a rhywbeth sy'n gysur."
Dywed Harry ei fod yn darlunio erioed, a bod athrawon yn siomedig pan benderfynodd yn erbyn mynd i'r brifysgol, ond mae'n hyderus bod modd creu gyrfa o'r cartwnau.
"Pan welodd fy rhieni fy mod yn gwneud arian ohono, roedden nhw'n fwy lenient ... yn naturiol, roedden nhw wedi poeni."
Mae bellach mewn trafodaethau ynghylch cydweithio gyda Snapchat, cyhoeddwyr a chwmnïau cardiau cyfarch ac anrhegion.
Fe ymwelodd â Mecsico yn ddiweddar gan dreulio deufis yno'n hyrwyddo ei waith, ac mae wedi cael cyfarfodydd am y brand yn Los Angeles ac Efrog Newydd.
Erbyn hyn mae'n byw bywyd yn ôl amser yr Unol Daleithiau, gan fod gymaint o'i ddilynwyr yno, ac er mwyn bod ar gael ar gyfer cyfarfodydd.
Mae'n rhagweld y bydd yn symud i fyw a gweithio yn Efrog Newydd yn y pen draw.