Côr ar gyfer pobl â dementia

Mae pobl sydd â dementia a'u teuluoedd wedi dod at ei gilydd i ganu mewn côr ar gyfer Gŵyl Cer i Greu 2018.

Pwrpas Forget-me-not Chorus yw cynnig seibiant i ofalwyr, ac i'r bobl a'u teuluoedd gael hwyl.

Mae Gŵyl Cer i Greu, sy'n bartneriaeth rhwng BBC Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac eraill, yn cael ei chynnal rhwng 17-25 Mawrth gyda nifer o ddosbarthiadau a gweithdai creadigol ar draws Cymru.