JJ Williams a JPR yn ymarfer gyda chôr dementia
- Cyhoeddwyd
Mae côr ar gyfer unigolion sydd â dementia a'u teuluoedd wedi cael y cyfle i ganu gyda rhai o enwau mawr y byd rygbi.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae Forget-me-not Chorus wedi bod yn ymarfer ar gyfer Gŵyl Cer i Greu 2018, sef gŵyl sy'n rhoi cyfle i'r cyhoedd droi eu llaw at rywbeth newydd a chreadigol.
Yn yr ymarfer olaf daeth JJ Williams a JPR Williams i gyd-ganu gyda'r aelodau.
Roedd yn brofiad wnaeth adael argraff arnyn nhw, gyda JJ Williams yn dweud ei fod wedi teimlo'n "eithaf emosiynol".
Pwrpas Forget-me-not Chorus yw cynnig seibiant i ofalwyr, ac i'r bobl a'u teuluoedd gael hwyl.
'Therapi'
Mae'n gyfle hefyd iddyn nhw fynegi eu hunain mewn ffordd greadigol.
Er nad oes gan y ddau gyn-chwaraewyr rygbi salwch dementia, roedden nhw'n awyddus i ddangos eu cefnogaeth i'r prosiect.
Roedd y caneuon maen nhw wedi bod yn ymarfer yn rhai cyfarwydd i JJ Williams.
"Fi'n gwybod y caneuon i gyd. Caneuon rygbi ydyn nhw i gyd - Calon Lân, Ar Hyd y Nos, Green Green Grass of Home. Roedd y rhain i'w clywed yn glir yn y stadiwm pan roedden ni'n chwarae.
"Mae hyn wedi bod yn eithaf emosiynol a dweud y gwir ac yn brofiad gwych i ni, John a finnau, i weld beth sy'n mynd ymlaen a'r gwaith da sy'n cael ei wneud."
Ychwanegodd: "Alla i ond argymell hyn i bobl eraill. Mae canu yn amlwg yn therapi."
Dywedodd JPR Williams bod gan nifer o'r bobl atgofion o'r tîm cenedlaethol yn y cyfnod pan oedd o'n chwarae.
"Yr unig beth oedd yn fy nharo am y côr oedd mai'n debyg nad oedd aelodau'r côr yn gallu cofio dim byd am ddoe ond eu bod yn gallu fy nghofio i'n chwarae - amser maith yn ôl.
"Mae'n amlwg i ni greu dipyn o argraff. Fel dywedodd un o'r aelodau wrtha i, doedden nhw bron ddim yn fy adnabod i oherwydd nad oedd gwaed ar fy wyneb!"
Uchafbwynt gyrfa
Yn ogystal â'r mawrion rygbi mae aelodau o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC wedi bod yn ymarfer gyda'r côr hefyd am gyfnod o wyth wythnos.
Fe fwynhaodd Jeff Davies, aelod gwreiddiol o gorws y BBC, y profiad yn fawr.
"Pan wnes i wirfoddoli i fod yn 'gyfaill' gydag aelod o'r côr Forget-me-not doeddwn i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl - mae'r ymarferion wedi bod yn un o'r profiadau mwyaf pleserus, emosiynol a boddhaol dwi wedi profi drwy fy ngyrfa canu.
"Doedd fy 'nghyfaill' methu fy nghofio i o un wythnos i'r llall. Ond erbyn diwedd pob ymarfer roedd gennym berthynas wych ac roedd e'n cofio pob gair o'r caneuon roedden ni'n canu."
Mae'r profiad hefyd wedi bod yn werthfawr i aelodau Forget-me-not Chorus.
Dywedodd Kate Woolveridge, y cyfarwyddwr artistig: "Mae dod i'r côr yn chwa o awyr iach i'r unigolion hynny.
"Syniad y Forget-me-not Chorus ydy bod gan bawb lais, bod pawb yn gallu canu ac mae Cer i Greu i gyd yn ymwneud â chodi oddi ar ein pen ôl, mynd allan a gwneud rhywbeth creadigol a does dim byd yn fwy creadigol ac yn codi calon yn well na chyd-ganu."
Mae Gŵyl Cer i Greu, sy'n bartneriaeth rhwng BBC Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac eraill yn cael ei chynnal rhwng 17-25 o Fawrth gyda nifer o ddosbarthiadau a gweithdai creadigol ar draws Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2016