Gemau'r Gymanwlad: Tîm Cymru'n dechrau cyrraedd Awstralia

Gyda Gemau'r Gymanwlad i ddechrau ymhen pedwar diwrnod, mae athletwyr tîm Cymru yn dechrau cyrraedd yr arfordir aur.

Mae tîm Cymru yn mynd â 209 o athletwyr a mwy na 100 o staff i Awstralia ar gyfer y gemau.

Ond cyn y cystadlu, roedd yna gyfle ddydd Sul i'r athletwyr brofi rhywfaint o ddiwylliant a thraddodiadau lleol.

O Awstralia, dyma adroddiad Iwan Griffiths.