Carwyn Jones wedi penderfynu gadael 'ym mis Medi'
Mae Carwyn Jones wedi dweud ei fod wedi penderfynu rhoi'r gorau iddi fel prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru fis Medi diwethaf.
Dywedodd ei fod eisiau cael ei gofio fel prif weinidog "teg a gonest" ar ôl bron i ddegawd ar frig gwleidyddiaeth Cymru.
Bydd Mr Jones, sy'n 51 oed, yn rhoi'r gorau fel prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru ym mis Rhagfyr.
Ddydd Sadwrn diwethaf gwnaeth y cyhoeddiad annisgwyl gan ddweud ei fod wedi bod drwy'r "dyddiau tywyllaf" ers marwolaeth Carl Sargeant.
Wythnos yn ddiweddarach, dywedodd Mr Jones ei fod wedi penderfynu rhoi'r gorau iddi fisoedd cyn iddo ddiswyddo Mr Sargeant.
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Arwyn Jones fu'n ei holi.