Carwyn Jones: 'Ro'n i'n brif weinidog teg a gonest'
- Cyhoeddwyd
Mae Carwyn Jones wedi dweud ei fod eisiau cael ei gofio fel prif weinidog "teg a gonest" ar ôl bron i ddegawd ar frig gwleidyddiaeth Cymru.
Bydd Mr Jones, sy'n 51 oed, yn rhoi'r gorau fel prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru ym mis Rhagfyr.
Ddydd Sadwrn diwethaf gwnaeth y cyhoeddiad annisgwyl gan ddweud ei fod wedi bod drwy'r "dyddiau tywyllaf" ers marwolaeth Carl Sargeant.
Wythnos yn ddiweddarach, dywedodd Mr Jones ei fod wedi penderfynu rhoi'r gorau iddi fis Medi diwethaf cyn iddo ddiswyddo Mr Sargeant.
'Cyfnod hir'
Daethpwyd o hyd i'r cyn-ysgrifennydd cymunedau, Mr Sargeant, yn farw ym mis Tachwedd.
Y gred ydy ei fod wedi cymryd ei fywyd ei hun ar ôl cael ei ddiswyddo o'r cabinet yn dilyn honiadau am ei ymddygiad tuag at fenywod.
Roedd Mr Jones, y prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru ers 2009, wedi bod dan bwysau, gyda rhai yn galw arno i ymddiswyddo oherwydd marwolaeth aelod Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy.
Ond yn ei gyfweliad cyntaf ers y newyddion yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno, dywedodd Mr Jones ei fod wedi penderfynu ildio'r awennau fisoedd cyn iddo ail-drefnu ei gabinet, gan ddisgwyl mai dyna fyddai'r tro olaf iddo wneud hynny.
Dywedodd ar raglen Sunday Politics BBC Cymru nad oedd llawer yn gwybod am ei benderfyniad tan yr araith - dywedodd wrth arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, am ei fwriad cyn y Nadolig, ond dim oriau o flaen llaw y cafodd Mr Corbyn wybod yr amserlen.
"A dweud y gwir, yn wreiddiol roeddwn i'n meddwl y byddai 10 mlynedd yn gyfnod braf o amser, ond pan ddes i yn ôl o'r haf, yn sydyn roedd y ddwy flynedd arall yn teimlo fel cyfnod hir - a pan fyddwch chi'n meddwl fel yna, mae'n amser gwneud paratoadau i symud ymlaen," meddai.
"Bwriad ad-drefnu'r cabinet oedd dod â'r holl bobl hynny yr oeddwn yn meddwl eu bod yn ymgeiswyr yn y dyfodol i fewn i'r llywodraeth."
'Erioed wedi troi cefn'
Mae Mr Jones yn bwriadu camu i lawr ym mis Rhagfyr ac yna bydd yn aros fel yr aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr, yn ailymuno â'r meinciau cefn am y tro cyntaf ers 2000 ar ôl tua 18 mlynedd fel gweinidog.
Dywedodd mai eraill ddylai gloriannu ei gyfnod fel prif weinidog ac nad yw'n teimlo fod unrhywbeth yn anorffenedig ganddo.
Ymhlith y pethau yr oedd fwyaf balch ohonyn nhw oedd arbed swyddi yng ngwaith dur Port Talbot a denu Aston Martin i Sain Tathan, ond mynnodd nad oedd yn gresynu am unrhyw benderfyniadau a wnaeth yn ystod ei amser wrth y llyw.
Gan fynnu na fyddai'n dychwelyd i'w swydd flaenorol fel bargyfreithiwr, dywedodd Mr Jones y byddai'n fodlon petai pobl yn ei gofio fel person "teg a gonest".
"Dydw i erioed wedi troi cefn ar benderfyniadau anodd neu geisio cuddio nhw mewn unrhyw ffordd, byth, a dwi'n meddwl fod hynny yn ffordd iawn o gael eich cofio fel gwleidydd," meddai.
Arweiniodd marwolaeth Mr Sargeant at Mr Jones yn cyhoeddi sawl ymholiad.
Mae dau wedi'u cwblhau, ond mae archwilydd annibynnol i'r amgylchiadau o amgylch ei ddiswyddo eto i ddechrau.
Ras arweinyddiaeth
Mae penderfyniad Mr Jones i sefyll i lawr wedi arwain at gystadleuaeth arweinyddiaeth, ond hyd yn hyn, er gwaethaf dyfalu am nifer o ymgeiswyr, dim ond yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, sydd wedi datgan ei fwriad i sefyll.
Dywedodd Mr Jones y byddai'n canolbwyntio ar wneud Cymru'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i ferched yn ei amser sy'n weddill, ac na fyddai'n caniatáu i unrhyw gystadleuaeth amharu ar waith y llywodraeth neu'r grŵp Llafur.
Ond gwrthododd ddatgelu yr hyn y bydd yn ei wneud nesaf, os fydd yn sefyll yn yr etholiad nesaf yn 2021 neu'n derbyn sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.
"Fy mhrif flaenoriaeth yw'r wyth mis nesaf, y peth olaf y mae pobl ei eisiau yw cael prif weinidog sy'n meddwl y tu hwnt i Ragfyr a chynllunio y tu hwnt ac nid canolbwyntio ar y gwaith dan sylw," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2018