Yr olygfa o hofrennydd o dannau gwyllt yng Ngwynedd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymateb i "dân mawr" ar fynydd Cilgwyn, ger Caernarfon.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 18:00 ddydd Llun, a bu dros 40 diffoddwr tân yn ceisio diffodd y fflamau sydd wedi lledaenu am dros filltir ar hyd y mynydd.
Mae criwiau tân yn dal i ddelio â'r digwyddiad ym mhentref Carmel, lle mae 15 o deuluoedd wedi cael cyngor i baratoi i adael eu cartrefi.
Yn ôl llefarydd y gwasanaeth tân, mae'r tân ar fynydd Cilgwyn yn dal i losgi.