Criwiau'n dal i daclo tanau gwyllt dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Yr olygfa o hofrennydd wrth dân gwyllt yng Ngwynedd
Mae criwiau tan yn parhau i geisio diffodd tanau agored ac yn apelio ar bobl i gymryd gofal.
Mae pum injan dan wedi dychwelyd i Fynydd Cilgwyn yng Ngharmel ger Caernarfon.
Fe wnaeth 15 o deuluoedd baratoi i adael eu cartrefi nos Lun yng Ngharmel, ac mae'r tân ar fynydd Cilgwyn yn dal i losgi, yn ôl llefarydd y gwasanaeth tân.
Mae tair injan yn parhau i fod ym Mraichmelyn, Bethesda wrth i dân mewn coedwig barhau i losgi ers 03:00 fore Mawrth.
Daeth cadarnhad hefyd fod criwiau yn ymateb i danau agored ym Mhentre' Helygain, Mynydd Bangor, Pwllheli a Thalsarnau.
Hyd yma mae'r Gwasanaeth Tân wedi derbyn:
Dros 50 o alwadau i'r tân ym Methesda;
Tua 115 o alwadau i'r tân ger Carmel, Caernarfon;
Dros 220 o alwadau i'r tân ar fynyd Bangor;
194 o alwadau i amryw danau eraill.

Roedd y tân wedi ail gynau ar Fynydd Cilgwyn brynhawn Mawrth

Roedd y criwiau tân yn parhau i fod ym Mraichmelyn ddydd Mawrth
Dywedodd Stuart Millington o'r gwasanaeth bod criwiau wedi bod yn delio gydag amrywiaeth o danau gwair a choedwig dros y 24 awr ddiwethaf, ac wedi wynebu "amodau anodd iawn dros nos".
"Rydyn ni'n annog pobl os ydyn nhw allan yn yr awyr agored i fod yn ofalus i beidio â gollwng unrhyw ddeunydd ysmygu, i beidio defnyddio barbeciw neu danau gwersylla," meddai.
"Yn sydyn iawn, gall tân ddechrau a datblygu tan ein bod mewn sefyllfa lle mae llawer o adnoddau o dros ogledd Cymru yn cael eu galw i ddigwyddiad all fod wedi ei osgoi."
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Cilgwyn toc cyn 18:00 ddydd Llun wedi adroddiadau fod tân mawr ar y mynydd.
Roedd 40 o ddiffoddwyr yn rhan o'r ymateb wrth i'r fflamau ledaenu dros filltir ar hyd y mynydd.
Dywedodd Lisa Jones sy'n byw yng Ngharmel wrth BBC Cymru Fyw nad oedd hi "erioed wedi gweld tân debyg iddo o'r blaen".
Mae tua 15 o deuluoedd wedi gorfod gadael eu tai
Cafodd criwiau o Lanberis, Caernarfon, Porthaethwy, Conwy, Llandudno a Phorthmadog eu hanfon i'r ardal ac roedd Heddlu'r Gogledd yno hefyd yn cynorthwyo wrth i rai pobl golli eu cyflenwad trydan.

"Mae'n ofnadwy gweld pobl yn gorfod gadael eu tai dan y fath amgylchiadau," meddai Lisa Jones
Yn y de mae tân mynydd mawr wedi ailgynnau am yr eildro ddydd Mawrth yn ardal Maerdy yn Rhondda Cynon Taf, ac mae dau griw a cherbyd 4x4 wedi eu galw i Frynithel ger Abertyleri i dân coed.
Ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru wedi eu galw'n ôl i Ben-bre, lle mae mawn wedi ailgynnau.
Er nad ydy'r gwasanaeth tân wedi cadarnhau achos y tanau sydd wedi bod yn llosgi yng ngogledd Cymru hyd yn hyn, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud nad oes unrhyw un wedi eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiadau.

Mynydd Maerdy fore Mawrth ar ôl i dân ailgynnau am yr eildro
Ar raglen Good Morning Wales, dywedodd Prif Ymgynghorydd Tân ac Achub Cymru, Andy Fry bod cymorth gan y fyddin yn gallu bod yn "ddefnyddiol iawn" ac yn "rhywbeth sy'n sicr yn cael ei ystyried".
Ychwanegodd bod y tywydd sych a gwyntoedd cryf "wir yn creu her yn nhermau'r cyflymder y mae'r tanau yma'n lledaenu".
Dywedodd y gallai ei gydweithwyr dros Gymru fod yn "hyderus bod pa bynnag adnoddau sydd eu hangen i ddelio gyda'r tanau gwyllt yma, yn cael eu darparu iddyn nhw".
Mae'r gwasanaethau tân wedi ymateb i nifer uchel o alwadau am danau agored ddydd Llun a dros y penwythnos.
Fe gafodd criwiau eu hanfon i Fynydd Bangor, Rhiw a Llanycil yng Ngwynedd a choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn, dydd Llun
Yng Ngheredigion roedd criwiau'n brysur yn delio gyda thân yng Nghwm Rheidol ddiwedd yr wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2018