Galw am wella diogelwch gwestai ar ôl marwolaeth llanc

Bu farw Thomas Channon, 18 o Fro Morgannwg ar ôl disgyn o uchder ym Magaluf, Sbaen ddydd Iau.

Dyma'r trydydd ymwelydd o Brydain i farw yng ngwesty Eden Roc eleni.

Mae dros 15 mlynedd ers i Nerys Williams golli ei mab Gethin ar ôl iddo yntau syrthio o uchder mewn gwesty ym Magaluf.

Yn ôl Ms Williams mae hi'n "amlwg" nad yw gwelliannau wedi cael eu gwneud i ddiogelwch yn y gwestai hyn.

Nid yw achos marwolaeth Mr Channon wedi ei gadarnhau.